1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi gofal yng Nghymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchir yn unol â rheoliad 5(1);
ystyr “awdurdod iechyd amgylchedd” (“environmental health authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd yr amgylchedd yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
ystyr “awdurdod tân” (“fire authority”), mewn perthynas â chartref gofal, yw'r awdurdod sy'n cyflawni swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1) yn yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig;
ystyr “cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“service user’s plan”) yw'r cynllun ysgrifenedig a baratoir yn unol â rheoliad 15(1);
ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â defnyddiwr gwasanaeth, yw person, heblaw'r person cofrestredig neu berson sy'n cael ei gyflogi yn y cartref gofal, sydd, gyda chydsyniad pendant neu gydsyniad awgrymedig y defnyddiwr gwasanaeth, yn cymryd diddordeb yn iechyd a lles y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel person sy'n rhedeg y cartref gofal;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r daganiad a lunir yn unol â rheoliad 4(1);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw unrhyw berson sy'n cael ei letya yn y cartref gofal y mae arno angen gofal nyrsio neu ofal personol oherwydd anabledd, llesgedd, salwch yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, anhwylder meddwl yn y gorffennol neu ar hyn o bryd neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau yn y gorffennol neu ar hyn o bryd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas ag unrhyw berson, yw—
priod y person;
unrhyw riant, tad-cu neu fam-gu (taid neu nain), plentyn, ŵ yr neu wyres, brawd, chwaer, ewyrth, modryb, nai neu nith i'r person neu i briod y person;
priod unrhyw berthynas o fewn is-baragraff (b) o'r diffiniad hwn;
unrhyw unigolyn y cafodd y person ei letya ag ef o dan drefniadau maethu am gyfnod hwy na 28 diwrnod tra'r oedd rhwng un ar bymtheg a deunaw mlwydd oed, neu briod yr unigolyn hwnnw,
ac er mwyn penderfynu ar unrhyw berthynas o'r fath, trinnir llys-blentyn person fel plentyn iddo, ac mae cyfeiriadau at “priod” yn cynnwys cyn-briod a pherson sy'n byw gyda'r person fel pe baent yn ŵ r a gwraig;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref gofal, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(2) yn gymwys iddo neu sy'n seicolegydd clinigol, yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref gofal, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf yn rheolwr y cartref gofal;
ystyr “staff” (“staff”) yw personau sy'n cael eu cyflogi gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal ond nid yw'n cynnwys gwirfoddolwr na pherson sy'n cael ei gyflogi o dan gontract ar gyfer gwasanaethau;
ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”), mewn perthynas â chartref gofal, yw—
os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 48 ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi, y swyddfa honno;
mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;
mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;
ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—
yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(3),
yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(4); neu
yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, ond nad ydynt yn unol â'r Ddeddf honno.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae cyfeiriad—
(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;
(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac
(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu gyflogi person yn unol â hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref gofal yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref gofal.
3.—(1) At ddibenion y Ddeddf, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn gartref gofal—
(a)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, ar gyfer perthynas i'r person sy'n ei redeg yn unig;
(b)os yw'n darparu llety, ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol, am lai na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;
(c)os yw'n ysbyty gwasanaeth iechyd lle darperir gwasanaeth nyrsio;
(ch)os yw'n darparu llety, ynghyd â nyrsio, a'i fod wedi'i freinio—
(i)yn y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(5), neu
(ii)mewn ymddiriedolaeth NHS(6);
(d)os yw'n brifysgol;
(dd)os yw'n sefydliad o fewn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(7); neu
(e)os yw'n ysgol.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae “prifysgol” yn cynnwys—
(a)unrhyw goleg prifysgol;
(b)unrhyw goleg, neu sefydliad sydd o ran ei natur yn goleg, i brifysgol.
(3) Nid yw'r eithriad ym mharagraff (1)(ch) yn gymwys—
(a)os yw'r sefydliad yn darparu llety ynghyd â gofal nyrsio neu ofal personol i unrhyw berson; a
(b)os yw nifer personau o'r fath yn fwy na degfed ran nifer y myfyrwyr y mae'n darparu addysg a llety iddynt.
4.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio datganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben” (“the statement of purpose”)) mewn perthynas â'r cartref gofal a fydd yn cynnwys—
(a)datganiad o nodau ac amcanion y cartref gofal;
(b)datganiad ynghylch y cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu gan y person cofrestredig ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth; ac
(c)datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio pan wneir cais amdano ar unrhyw adeg resymol gan unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ac unrhyw gynrychiolydd i ddefnyddiwr gwasanaeth.
(3) Ni fydd dim yn rheoliad 16(1) neu 24(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol, neu i beidio â chydymffurfio â hwy—
(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu
(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.
5.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r cartref gofal (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s guide”)) a fydd yn cynnwys—
(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben;
(b)y telerau a'r amodau mewn perthynas â'r llety sydd i'w ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys y telerau a'r amodau ynghylch swm y ffioedd a'r dull o'u talu;
(c)ffurflen contract safonol ar gyfer darparu gwasanaethau a chyfleusterau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth gan y darparydd cofrestredig;
(ch)naill ai crynodeb o'r adroddiad arolygu diweddaraf neu gopi o'r adroddiad hwnnw;
(d)crynodeb o'r weithrdrefn gwyno a sefydlir o dan reoliad 23;
(dd)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)darparu copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth cyntaf i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;
(b) darparu copi o fersiwn gyfredol yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth i bob defnyddiwr gwasanaeth pan letyir hwy gyntaf yn y cartref; ac
(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y defnyddiwr gwasanaeth.
(3) Os oes awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer darparu llety nyrsio neu ofal personol i'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cytundeb sy'n pennu'r trefniadau a wneir i'r defnyddiwr gwasanaeth.
(4) Yn y rheoliad hwn mae “adroddiad arolygu diweddaraf” yn cynnwys adroddiad a gynhyrchir cyn i'r rheoliadau hyn ddod i rym.
6.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2), eu diwygio os yw'n briodol; a
(b)os diwygir yr arweiniad defnyddiwr gwasanaeth, darparu copi diwygiedig i bob defnyddiwr gwasanaeth.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig, pryd bynnag y mae'n ymarferol, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y mae i fod i ddod yn weithredol.
10 & 11 Geo. 6 p.41.
Gweler adran 5 o Ddeddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) fel y'i diwygiwyd gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ac adran 13(1) o Ddeddf Iechyd 1999 (p.8).