- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
7.—(1) Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal oni bai bod y person—
(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
(b)yn gorff ac—
(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol” (“the responsible individual”)) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
(3) Dyma'r gofynion—
(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; a
(b)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg neu (yn ôl y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref gofal; ac
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer yr unigolyn—
(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
[F1(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.]
[F2(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.]
(5) Nid yw person yn ffit i redeg cartref gofal—
(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystâd ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu; neu
(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr neu wedi cael gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 7(3)(c)(iii) wedi ei fewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(2)(a)
F2Rhl. 7(4) wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i reoli'r cartref gofal—
(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref gofal; a
(b)os yw'r darparydd cofrestredig—
(i)yn gorff;
(ii)heb fod yn berson ffit i reoli cartref gofal; neu
(iii)heb fod yn gyfrifol am y cartref gofal yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
(2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref gofal, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
(a)o enw'r person a benodwyd felly; a
(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
(3) Os y darparydd cofrestredig yw'r person sy'n mynd i reoli'r cartref gofal rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9.—(1) Rhaid i berson beidio â rheoli cartref gofal oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
(2) Nid yw person yn ffit i reoli cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref;
(b)o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth—
(i)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r cartref gofal; a
(ii)bod ganddo'r medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r cartref gofal.
(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn Atodlen 2.
[F3(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.]
[F4(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.]
Diwygiadau Testunol
F3Rhl. 9(2)(c)(iii) wedi ei fewnosod (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(3)(a)
F4Rhl. 9(3) wedi ei amnewid (18.10.2002) gan Rheoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/2622), rhlau. 1, 2(3)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, redeg y cartref gofal neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.
(2) Os yw'r darparydd cofrestredig—
(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd.
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref gofal.
(3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo y profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref gofal.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
(a)o ddyddiad y collfarniad;
(b)o'r tramgwydd y'i collfarnwyd o'i herwydd; ac
(c)o'r gosb a osodwyd mewn perthynas â'r tramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: