RHAN IIIRHEDEG Y CARTREF GOFAL
Iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethI112
1
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—
a
yn hybu iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth a gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer;
b
yn gwneud darpariaeth briodol ar gyfer gofal y defnyddwyr gwasanaeth ac, os yw'n briodol, ar gyfer eu triniaeth, eu haddysg a'u goruchwyliaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofal y maent i'w gael ac â'u hiechyd a'u lles.
3
Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r defnyddwyr gwasanaeth a'u cymryd i ystyriaeth er mwyn darparu gofal iddynt a gwneud darpariaeth briodol ar gyfer eu hiechyd a'u lles.
4
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref gofal yn cael ei redeg—
a
mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y defnyddwyr gwasanaeth;
b
gan roi sylw dyledus i ryw, cyfeiriadedd rhywiol, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y defnyddwyr gwasanaeth ac unrhyw anabledd sydd ganddynt.
5
Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig (os oes un), mewn perthynas â rhedeg y cartref gofal—
a
cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda'i gilydd a chyda defnyddwyr gwasanaeth a chyda staff; a
b
annog a chynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Gofynion pellach ynghylch iechyd a llesI213
1
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—
a
cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a
b
cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.
2
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
3
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
b
bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
c
bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac
ch
bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.
5
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
6
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.
7
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
8
Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.
Asesu defnyddwyr gwasanaethI314
1
Rhaid i'r person cofrestredig beidio â darparu llety i ddefnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal oni bai bod y camau canlynol wedi'u cwblhau, i'r graddau y bydd wedi bod yn ymarferol gwneud hynny—
a
bod anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wedi'u hasesu gan berson â chymwysterau neu hyfforddiant addas;
b
bod y person cofrestredig wedi cael gafael ar gopi o'r asesiad;
c
bod ymgynghoriad priodol wedi'i gynnal ynghylch yr asesiad â'r defnyddiwr gwasanaeth neu â chynrychiolydd i'r defnyddiwr gwasanaeth;
ch
bod y person cofrestredig wedi cadarnhau yn ysgrifenedig i'r defnyddiwr gwasanaeth fod y cartref gofal yn addas at ddibenion diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les, o roi sylw i'r asesiad.
2
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asesiad o anghenion y defnyddiwr gwasanaeth—
a
yn cael ei gadw o dan sylw; a
b
yn cael ei adolygu ar unrhyw adeg pan fydd angen gwneud hynny o roi sylw i unrhyw newid amgylchiadau.
Cynllun defnyddiwr gwasanaethI415
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“y cynllun defnyddiwr gwasanaeth” (“the service user’s plan”)), ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad, ynghylch sut y bwriedir diwallu anghenion y defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â'i iechyd a'i les.
2
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
os yw'r defnyddiwr gwasanaeth yn cael ei letya o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol, sicrhau bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi'i baratoi gan yr awdurdod lleol hwnnw;
b
trefnu bod y cynllun defnyddiwr gwasanaeth ar gael i'r defnyddiwr gwasanaeth;
c
cadw'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw;
ch
adolygu'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth os yw'n briodol, a hynny ar ôl ymgynghori â'r defnyddiwr gwasanaeth neu gynrychiolydd y defnyddiwr gwasanaeth, os yw'n ymarferol cynnal ymgynghoriad; ac
d
hysbysu'r defnyddiwr gwasanaeth o unrhyw adolygiad o'r fath.
Cyfleusterau a gwasanaethauI516
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth yn unol â datganiad o ddiben y cartref gofal.
2
O roi sylw i faint y cartref gofal ac i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig—
a
darparu, i'r graddau y mae angen hynny er mwyn rheoli'r cartref gofal—
i
cyfleusterau ffôn priodol;
ii
cyfleusterau priodol ar gyfer cyfathrebu drwy drosglwyddiadau ffacsimili;
b
darparu cyfleusterau ffôn sy'n addas at anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a gwneud trefniadau i alluogi'r defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio cyfleusterau o'r fath yn breifat;
c
darparu, yn yr ystafelloedd a feddiennir gan y defnyddwyr gwasanaeth, ddodrefn, dillad gwely a chelfi digonol eraill, gan gynnwys llenni a gorchuddion i'r llawr, ac offer sy'n addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, a sgriniau os oes eu hangen;
ch
annog y defnyddwyr gwasanaeth, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, i ddod â'u dodrefn a'u celfi eu hunain i'r ystafelloedd y maent yn eu meddiannu;
d
trefnu ar gyfer golchi llieiniau a dillad yn rheolaidd;
dd
darparu, i'r graddau y mae'n ymarferol gwneud hynny, cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth olchi, sychu a smwddio'u dillad eu hunain os dymunant ac, at y diben hwnnw, gwneud trefniadau i'w dillad gael eu didoli a'u cadw ar wahân;
e
darparu offer cegin, llestri, cytleri a theclynnau digonol ac addas, a chyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd;
f
darparu cyfleusterau digonol i'r defnyddwyr gwasanaeth baratoi eu bwyd eu hunain a sicrhau bod cyfleusterau o'r fath yn ddiogel i gael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
ff
darparu, mewn symiau digonol, fwyd addas, iachus a maethlon sy'n amrywiol ac wedi'i baratoi'n briodol ac ar gael ar unrhyw adeg y mae'n rhesymol i'r defnyddwyr gwasanaeth ofyn amdano;
g
gwneud trefniadau addas ar gyfer cynnal safonau boddhaol o hylendid yn y cartref gofal ac ymgynghori â'r awdurdod iechyd amgylchedd ynghylch y trefniadau hynny;
ng
cadw'r cartref gofal yn rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol;
h
darparu man lle y gall arian a phethau gwerthfawr y defnyddwyr gwasanaeth gael eu hadneuo i gael eu cadw'n ddiogel, a gwneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth gydnabod yn ysgrifenedig fod unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuwyd wedi'u dychwelyd iddynt;
i
ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch eu diddordebau cymdeithasol, a gwneud trefniadau i'w galluogi i ymgymryd â gweithgareddau lleol, cymdeithasol a chymunedol ac ymweld â'u teuluoedd a'u cyfeillion, neu gadw cysylltiad neu gyfathrebu â hwy;
j
ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch y rhaglen o weithgareddau a drefnir gan y cartref gofal neu ar ei ran, a darparu cyfleusterau hamdden, gan gynnwys gweithgareddau mewn perthynas â hamdden, ffitrwydd a hyfforddi, gan roi sylw i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y mae'n ymarferol, fod y defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyfle i fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.
4
Yn y rheoliad hwn mae “bwyd” yn cynnwys diod.
CofnodionI617
1
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
cadw cofnod mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth sy'n cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion eraill a bennir yn Atodlen 3 ynghylch y defnyddiwr gwasanaeth;
b
sicrhau bod y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnod yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu ei fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.
2
Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref gofal neu os yw'r cartref yn cau cadw'r cofnodion yn ddiogel yn rhywle arall a threfnu eu bod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol os bydd yn gofyn amdano.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn cael eu cadw yn gyfoes.
4
Rhaid parhau i gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) am o leiaf dair blynedd ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddynt, ac eithrio cofnod a gedwir o dan baragraff 13 o Atodlen 4 y mae angen ei gadw am flwyddyn yn unig ar ôl dyddiad yr eitem olaf ynddo.
5
Nid yw'r rheoliad hwn yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) neu reol gyfreithiol arall ynghylch cofnodion neu wybodaeth.
StaffioI718
1
Gan roi sylw i faint y cartref gofal, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y materion canlynol—
a
bod personau cymwys a chanddynt gymwysterau addas, medrus a phrofiadol yn gweithio yn y cartref gofal bob amser, mewn niferoedd sy'n briodol ar gyfer iechyd a lles y defnyddwyr gwasanaeth;
b
na fydd cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref gofal yn atal y defnyddwyr gwasanaeth rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion;
c
bod y personau a gyflogir gan y person cofrestredig i weithio yn y cartref gofal yn cael—
i
hyfforddiant sy'n briodol i'r gwaith y maent i'w gyflawni; a
ii
cymorth addas, gan gynnwys amser i ffwrdd o'r gwaith, er mwyn ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i waith o'r fath.
2
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael eu goruchwylio'n briodol.
3
Os yw'r cartref gofal—
a
yn darparu gwasanaeth nyrsio i ddefnyddwyr gwasanaeth; a
b
yn darparu, p'un a ydyw mewn cysylltiad â nyrsio neu beidio, feddyginiaethau neu driniaeth feddygol i ddarparwyr gwasanaeth;
rhaid i'r person cofrestredig sicrhau fod nyrs gofrestredig a chanddi gymwysterau addas yn gweithio yn y cartref gofal bob amser.
4
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i roi gwybodaeth briodol am unrhyw God Ymarfer a gyhoeddir o dan adran 62 o'r Ddeddf i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal.
Ffitrwydd y gweithwyrI819
1
F1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A), Rhaid i'r person cofrestredig—
a
beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;
b
beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
c
beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf12 yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—
a
ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;
b
bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
c
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;
ch
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
i
ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
ii
pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
F23
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y F3cartref gofal a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
b
oni bai bod paragraff (5) F4neu 5A yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
5
Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf F5paragraffau (1) a (4)(b)—
a
bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;
b
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
i
y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;
ii
ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;
iii
pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
c
bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
ch
bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
F65A
Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
a
bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
b
bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
c
bod y person wedi darparu—
i
dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
ii
datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
ch
ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
d
bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.
6
Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan F731 Hydref 2004 mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
7
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Cyfyngiadau ar weithredu ar ran defnyddiwr gwasanaethI920
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r person cofrestredig beidio â thalu arian sy'n perthyn i unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth i gyfrif banc oni bai—
a
bod y cyfrif yn enw'r defnyddiwr gwasanaeth y mae'r arian yn perthyn iddo; a
b
nad yw'r cyfrif yn cael ei ddefnyddio gan y person cofrestredig mewn cysylltiad â rhedeg neu reoli'r cartref gofal.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i arian sy'n cael ei dalu i'r person cofrestredig mewn perthynas â ffioedd sy'n daladwy gan ddefnyddiwr gwasanaeth am lety neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y person cofrestredig yn y cartref gofal.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau i'r graddau y bo'n ymarferol nad yw'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn gweithredu fel asiant i ddefnyddiwr gwasanaeth.
Barn y staff ynghylch rhedeg y cartref gofalI1021
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y cartref gofal i'r graddau y gall effeithio ar iechyd neu les defnyddwyr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi'r staff i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am eu barn ar unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.
Gweithdrefn disgyblu staffI1122
1
Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn disgyblu staff a fydd, yn benodol—
a
yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill llai difrifol nag atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er mwyn diogelwch neu les y defnyddwyr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal; a
b
yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir, ar ddefnyddiwr gwasanaeth a letyir yn y cartref gofal i berson priodol yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
2
At ddibenion paragraff (1), person priodol yw'r person cofrestredig, swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf neu swyddog o'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y lleolir y cartref ynddi, neu gwnstabl.
CwynionI1223
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig (“y weithdrefn gwynion” (“the complaints procedure”)) ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan ddefnyddiwr gwasanaeth neu berson sy'n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r weithdrefn gwynion fod yn addas ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
3
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwyn a wneir o dan y weithdrefn gwynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.
4
Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwyn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwyn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
5
Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r weithdrefn gwynion i bob defnyddiwr gwasanaeth ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran defnyddiwr gwasanaeth os bydd y person hwnnw'n gofyn amdano.
6
Pan fydd copi o'r weithdrefn gwynion i'w chyflwyno yn unol â pharagraff (5) i berson sy'n ddall neu berson â nam ar ei olwg, rhaid i'r person cofrestredig, os yw hynny'n ymarferol, gyflwyno copi o'r weithdrefn gwynion mewn ffurf sy'n addas i'r person hwnnw yn ogystal â chopi ysgrifenedig.
7
Rhaid i'r copi o'r weithdrefn gwynion gynnwys—
a
enw a chyfeiriad swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
b
y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch y cartref gofal.
8
Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd wrth ymateb i bob cwyn.