RHAN IVSAFLEOEDD
Ffitrwydd safleoeddI124
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 4(3), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref gofal oni bai—
a
bod y safle'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben; a
b
bod lleoliad y safle'n briodol ar gyfer anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.
2
Rhaid i'r person cofrestredig, o roi sylw i nifer ac anghenion y defnyddwyr gwasanaeth, sicrhau—
a
bod dyluniad a chynllun ffisegol y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal yn diwallu anghenion y defnyddwyr gwasanaeth;
b
bod y safle sydd i'w ddefnyddio fel y cartref gofal o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei gadw mewn cyflwr da y tu allan a'r tu mewn;
c
bod yr offer a ddarperir yn y cartref gofal i'w ddefnyddio gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal yn cael ei gynnal-a'i-gadw mewn cyflwr gweithio da;
ch
bod pob rhan o'r cartref gofal yn cael eu cadw'n lân ac wedi'u haddurno'n rhesymol;
d
bod llety preifat a chyffredin digonol yn cael ei ddarparu ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth;
dd
bod maint a chynllun yr ystafelloedd a feddiennir neu a ddefnyddir gan y defnyddwyr gwasanaeth yn addas at eu hanghenion;
e
bod lle digonol ar gyfer eistedd, hamddena a bwyta yn cael ei ddarparu ar wahân i lety preifat y defnyddiwr gwasanaeth;
f
bod y lle cyffredin a ddarperir ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth yn addas ar gyfer darparu gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chrefyddol sy'n briodol ar gyfer amgylchiadau'r defnyddwyr gwasanaeth;
ff
bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth gyfarfod ag ymwelwyr mewn llety cyffredin, ac mewn llety preifat sydd ar wahân i ystafelloedd preifat y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain;
g
bod niferoedd digonol o doiledau, ac o fasnau ymolchi, baddonau a chawodydd wedi'u ffitio â chyflenwad dŵ r poeth ac oer, yn cael eu darparu mewn mannau priodol yn y safle;
ng
bod unrhyw gyfleusterau arllwys angenrheidiol yn cael eu darparu;
h
bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud ar gyfer storio at ddibenion y cartref gofal;
i
bod cyfleusterau storio addas yn cael eu darparu i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio;
j
bod newidiadau addas yn cael eu gwneud, a bod unrhyw gymorth, offer a chyfleusterau, gan gynnwys lifftiau, y mae eu hangen yn cael eu darparu ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n hen, yn eiddil neu'n anabl yn gorfforol;
l
bod tiroedd allanol sy'n addas ac yn ddiogel i'r defnyddwyr gwasanaeth eu defnyddio yn cael eu darparu a'u cynnal yn briodol;
ll
bod awyru, gwresogi a goleuo sy'n addas i'r defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu darparu ym mhob rhan o'r cartref gofal sy'n cael eu defnyddio gan y defnyddwyr gwasanaeth;
m
bod y safle'n ddiogel rhag mynediad na chafodd ei awdurdodi.
3
Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer y staff—
a
cyfleusterau a llety addas, heblaw llety cysgu, gan gynnwys—
i
cyfleusterau ar gyfer newid;
ii
cyfleusterau storio;
b
llety ar gyfer cysgu, os oes ar y staff angen darpariaeth llety o'r fath mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref gofal.
4
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynnwys darparu offer tân addas;
b
darparu dulliau dianc digonol;
c
gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol—
i
canfod, cyfyngu a diffodd tanau;
ii
rhoi rhybuddion tân;
iii
gwacâd yr holl bersonau sydd yn y cartref gofal a lleoli'r defnyddwyr gwasanaeth yn ddiogel, os digwydd tân;
iv
cynnal a chadw'r holl offer tân; a
v
adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;
ch
gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal gael hyfforddiant addas mewn atal tân;
d
sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref gofal ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y defnyddwyr gwasanaeth, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, gan gynnwys y weithdrefn ar gyfer arbed bywyd;
dd
ymgynghori â'r awdurdod tân ynghylch y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) i (d).
5
Rhaid i'r person cofrestredig ymgynghori yn briodol â'r awdurdod sy'n gyfrifol am iechyd amgylchedd yr ardal y lleolir y cartref gofal ynddi.