RHAN IIIRHEDEG Y CARTREF GOFAL
Gofynion pellach ynghylch iechyd a llesI113
1
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth—
a
cael eu cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol o'u dewis; a
b
cael triniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill, os oes eu hangen, gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd.
2
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu meddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref gofal.
3
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, anhwylderau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y cartref gofal.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod pob rhan o'r cartref y gall defnyddwyr gwasanaeth fynd iddynt yn rhydd rhag peryglon i'w diogelwch, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
b
bod unrhyw weithgareddau y mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd rhag risgiau y gellir eu hosgoi, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol;
c
bod unrhyw risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu canfod ac yn cael eu dileu, i'r graddau y mae hynny'n bosibl; ac
ch
bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i hyfforddi staff mewn cymorth cyntaf.
5
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i ddarparu system ddiogel ar gyfer codi defnyddwyr gwasanaeth a'u symud.
6
Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy roi hyfforddiant i'r staff neu drwy fesurau eraill, i atal defnyddwyr gwasanaeth rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.
7
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw neu unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.
8
Ar unrhyw achlysur pan gaiff defnyddiwr gwasanaeth ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.