Ffitrwydd y gweithwyrLL+C
19.—(1) [Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A),] Rhaid i'r person cofrestredig—
(a)beidio â chyflogi person i weithio yn y cartref gofal dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person yn ffit i wneud hynny;
(b)beidio â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
(c)beidio â chaniatáu i unrhyw berson arall weithio yn y cartref gofal mewn swydd lle gall y person yng nghwrs ei ddyletswyddau ddod i gysylltiad rheolaidd â defnyddwyr gwasanaeth neu ag unrhyw berson o ddisgrifiad a bennir yn adran 3(2) o'r Ddeddf() yn y cartref gofal oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref gofal oni bai—
(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio yn y cartref gofal;
(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni;
(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ar gyfer y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
(i)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 yn Atodlen 2;
(ii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 yn yr Atodlen honno.
[(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi]
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1) neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y [cartref gofal] a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
(b)oni bai bod paragraff (5) [neu 5A] yn gymwys, na fydd person yn dechrau gweithio yn y cartref gofal nes y cydymffurfir â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw.
(5) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y cartref gofal er gwaethaf [paragraffau (1) a] (4)(b)—
(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person, ond bod yr ymholiadau mewn perthynas ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 yn Atodlen 2 yn anghyflawn;
(b)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 yn Atodlen 2;
(ii)ac eithrio pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 yn yr Atodlen honno;
(iii)pan fydd paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 yn yr Atodlen honno;
(c)bod yr amgylchiadau'n eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
(ch)bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
[(5A) Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a)bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b)bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c)bod y person wedi darparu—
(i)dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii)datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
(ch)ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.]
(6) Ni fydd paragraff (2)(ch), i'r graddau y mae'n berthnasol i baragraff 2 yn Atodlen 2, yn gymwys tan [31 Hydref 2004] mewn perthynas â pherson a gyflogir yn union o flaen 1 Ebrill 2002 i weithio yn y cartref gofal.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson yn y cartref gofal nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol bob amser.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn