RHAN VIIAMRYWIOL
Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill38.
(1)
Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd—
(a)
marwolaeth unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, gan nodi amgylchiadau'r farwolaeth;
(b)
brigiad unrhyw glefyd heintus yn y cartref gofal sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n gofalu am bersonau yn y cartref gofal yn ddigon difrifol i gael ei hysbysu felly;
(c)
unrhyw anaf difrifol i ddefnyddiwr gwasanaeth;
(ch)
salwch difrifol defnyddiwr gwasanaeth mewn cartref gofal nad oes nyrsio'n cael ei ddarparu ynddo;
(d)
unrhyw ddigwyddiad yn y cartref gofal sy'n effeithio ar les neu ddiogelwch unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth;
(dd)
unrhyw ladrad, bwrgleriaeth neu ddamwain ddifrifol yn y cartref gofal;
(e)
unrhyw honiad o gamymddwyn gan y person cofrestredig neu unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref gofal.
(2)
Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.