ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI CARTREFI GOFAL NEU WEITHIO YNDDO
I11
Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
I22
Naill ai—
a
os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)17), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 199718, tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
b
mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,
I33
Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.
I44
Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
I55
Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
I66
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
I7F27
Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
a
y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu
b
y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.
F38
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.