Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

Rhagolygol

Rheoliadau 7, 9, 19

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI CARTREFI GOFAL NEU WEITHIO YNDDO

1.  Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Naill ai—LL+C

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1)), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—LL+C

(a)y cafwyd y person yn euog ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(4) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y diwygir y Gorchymyn hwnnw o dro i dro) (5); neu

(b)y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd y person wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.

(2)

Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.

(3)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(5)

O.S. 1975/1023. Ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; O.S. 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.