Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002

9.  Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo—LL+C

(a)datgan dyddiad adneuo neu dderbyn yr arian neu'r pethau gwerthfawr, dyddiad dychwelyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr i ddefnyddiwr gwasanaeth neu eu defnyddio, ar gais y defnyddiwr gwasanaeth, ar ei ran ac, os yw'n gymwys, at ba ddiben y cafodd yr arian neu'r pethau gwerthfawr eu defnyddio; a

(b)cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)