ATODLEN 5GWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA

Rheoliadau 4 a 30

I11

Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I22

Y manylion canlynol—

a

eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;

b

a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;

c

ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I33

Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I44

Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I55

Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I66

Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I77

Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I88

Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I99

Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1010

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1111

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1212

Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1313

Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1414

Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1515

Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1616

Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1717

Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1818

Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1919

Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.