Rheoliad 4(1)(c)

ATODLEN 1LL+CYR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Nifer, cymwysterau a phrofiad perthnasol y staff sy'n gweithio yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Strwythur trefniadol y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Ystod oedran a rhyw y defnyddwyr gwasanaeth y bwriedir darparu llety ar eu cyfer.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Ystod yr anghenion y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  A gaiff gwasanaeth nyrsio ei ddarparu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Unrhyw feini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau (os oes rhai) y cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Y trefniadau i'r defnyddwyr gwasanaeth ymgymryd â gweithgareddau cymdeithasol, hobïau a diddordebau hamdden.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r defnyddwyr gwasanaeth ynghylch gweithredu'r cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y trefniadau a wneir i'r defnyddwyr gwasanaeth fynychu gwasanaethau crefyddol o'u dewis.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng y defnyddwyr gwasanaeth a'u perthnasau, eu cyfeillion a'u cynrychiolwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Nifer a maint yr ystafelloedd yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas defnyddwyr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Y trefniadau a wneir i ryddhau ymrwymiad person cofrestredig o dan reoliad 12 (4)(b).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

20.  Manylion—LL+C

(a)polisi'r cartref gofal ar reoli ymddygiad a defnyddio dulliau o atal;

(b)y dulliau rheoli a all gael eu defnyddio yn y cartref (os o gwbl) a'r amgylchiadau y defnyddir hwy ynddynt a chan bwy y defnyddir hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 7, 9, 19

ATODLEN 2LL+CYR WYBODAETH SYDD I FOD AR GAEL MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SYDD AM REDEG NEU REOLI CARTREFI GOFAL NEU WEITHIO YNDDO

1.  Prawf cadarnhaol o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Naill ai—LL+C

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1)), neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997(2), tystysgrif cofnod troseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi,

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, [F1i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997] [F2ac yn ddarostyngedig i baragraff 8], y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(3).

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diweddaraf, os oes un.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd a oedd yn cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol resymol, o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

[F37.  Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddolLL+C

(a)y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975; neu

(b)y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

[F48.  Ni fydd y gofyniad ym mharagraff 2 am i dystysgrif gynnwys y materion a bennir yn adran 113(3C) neu 115(6B) o Ddeddf yr Heddlu 1997 yn gymwys mewn perthynas â thystysgrif oedd ar gael at ddibenion y Rheoliadau hyn yn syth cyn 26 Gorffennaf 2004.]LL+C

Rheoliad 17(1)(a)

ATODLEN 3LL+CY COFNODION SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL MEWN PERTHYNAS Å PHOB DEFNYDDIWR GWASANAETH

1.  Y dogfennau canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—LL+C

(a)yr asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 14(1);

(b)y cynllun defnyddiwr gwasanaeth y cyfeirir ato yn rheoliad 15(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Ffotograff diweddar o'r defnyddiwr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Cofnod o'r materion canlynol mewn perthynas â phob defnyddiwr gwasanaeth—LL+C

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a statws priodasol [F5neu statws partneriaeth sifil] pob defnyddiwr gwasanaeth;

(b)enw, cyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y defnyddiwr gwasanaeth neu enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran;

(c)enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y defnyddiwr gwasanaeth ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw swyddog i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol sydd o dan ddyletswydd i oruchwylio lles y defnyddiwr gwasanaeth;

(ch)y dyddiad y daeth y defnyddiwr gwasanaeth i'r cartref gofal;

(d)y dyddiad yr ymadawodd y defnyddiwr gwasanaeth â'r cartref gofal a'r lle yr aeth iddo;

(dd)os bu farw'r defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth;

(e)enw a chyfeiriad unrhyw awdurdod, mudiad neu gorff arall a drefnodd i'r defnyddiwr gwasanaeth gael ei dderbyn i'r cartref gofal;

(f)cofnod o'r holl feddyginiaethau a gedwir yn y cartref gofal ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, a dyddiad eu rhoi i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(ff)cofnod o unrhyw ddamwain sy'n effeithio ar y defnyddiwr gwasanaeth yn y cartref gofal ac o unrhyw ddigwyddiad arall yn y cartref gofal sy'n andwyol i iechyd neu les y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys natur, dyddiad ac amser y ddamwain neu'r digwyddiad, a oedd angen triniaeth feddygol ac enw'r personau a oedd â gofal y cartref gofal ac yn goruchwylio'r defnyddiwr gwasanaeth yn eu tro;

(g)cofnod o unrhyw wasanaeth nyrsio a ddarparwyd ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys cofnod o'i anhwylder ac unrhyw driniaeth neu ymyriad llawfeddygol;

(ng)manylion unrhyw anghenion arbennig o ran cyfathrebu sydd gan y defnyddiwr gwasanaeth a'r dulliau cyfathrebu a all fod yn briodol i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(h)manylion unrhyw gynllun sy'n ymwneud â'r defnyddiwr gwasanaeth mewn perthynas â meddyginiaeth, nyrsio, gofal iechyd arbenigol neu faethiad;

(i)cofnod o fynychder briwiau pwysedd ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(j)cofnod o godymau ac o'r driniaeth ganlynol a roddir i'r defnyddiwr gwasanaeth;

(l)cofnod o unrhyw ataliadau corfforol a ddefnyddir ar y defnyddiwr gwasanaeth;

(ll)cofnod o unrhyw gyfyngiadau y cytunwyd arnynt gyda'r defnyddiwr gwasanaeth ynghylch rhyddid y defnyddiwr gwasanaeth i ddewis, rhyddid i symud a phŵ er i wneud penderfyniadau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Copïau o ohebiaeth y cartref gofal sy'n ymwneud â phob defnyddiwr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 17(2)

ATODLEN 4LL+CCOFNODION ERAILL SYDD I'W CADW MEWN CARTREF GOFAL

1.  Copi o'r datganiad o ddiben.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Copi o'r arweiniad defnyddiwr gwasanaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Cofnod o'r holl gyfrifon a gedwir yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Copi o bob adroddiad arolygu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 27(4)(c).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Cofnod o'r holl bersonau a gyflogir yn y cartref gofal, a fydd yn cynnwys y materion canlynol mewn perthynas â phob unigolyn a ddaw o dan reoliad 19(1)—LL+C

(a)ei enw llawn, ei gyfeiriad, ei ddyddiad geni, ei gymwysterau a'i brofiad;

(b)copi o'i dystysgrif eni a'i basport (os oes un);

(c)copi o bob tystlythyr a gafwyd mewn perthynas ag ef;

(ch)y dyddiadau y mae'n dechrau cael ei gyflogi ac yn gorffen cael ei gyflogi;

(d)y swydd sydd ganddo yn y cartref gofal, y gwaith y mae'n ei gyflawni a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos;

(dd)gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion camau disgyblu ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Copi o roster dyletswyddau'r personau sy'n gweithio yn y cartref gofal, a chofnod i ddweud a gafodd y roster ei weithio mewn gwirionedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Cofnod o'r ffioedd a godir gan y cartref gofal ar y defnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau ychwanegol nad yw'r ffioedd hynny'n talu amdanynt, a'r symiau a dalwyd gan pob defnyddiwr gwasanaeth neu mewn perthynas ag ef.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Cofnod o'r holl arian neu bethau gwerthfawr eraill a adneuwyd gan ddefnyddiwr gwasanaeth i gael eu cadw'n ddiogel neu a dderbyniwyd ar ran y defnyddiwr gwasanaeth, sef cofnod y mae'n rhaid iddo—LL+C

(a)datgan dyddiad adneuo neu dderbyn yr arian neu'r pethau gwerthfawr, dyddiad dychwelyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr i ddefnyddiwr gwasanaeth neu eu defnyddio, ar gais y defnyddiwr gwasanaeth, ar ei ran ac, os yw'n gymwys, at ba ddiben y cafodd yr arian neu'r pethau gwerthfawr eu defnyddio; a

(b)cynnwys cydnabyddiaeth ysgrifenedig bod yr arian neu'r pethau gwerthfawr wedi'u dychwelyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Cofnod o bob dodrefnyn y daeth y defnyddiwr gwasanaeth ag ef i'r ystafell y mae'n lletya ynddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Cofnod o bob cwyn a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth neu gynrychiolwyr neu berthnasau i'r defnyddwyr gwasanaeth neu gan bersonau sy'n gweithio yn y cartref gofal ynghylch gweithredu'r cartref gofal, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gŵ yn o'r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Cofnod o unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol sy'n digwydd yn y cartref gofal—LL+C

(a)unrhyw ddamwain;

(b)unrhyw ddigwyddiad sy'n andwyol i iechyd neu les defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys brigiad clefyd heintus yn y cartref gofal;

(c)unrhyw anaf neu salwch;

(ch)unrhyw dân;

(d)ac eithrio pan wneir cofnod o dan baragraff 14, unrhyw achlysur pan weithredir y larwm tân;

(dd)unrhyw ladrad neu fwrgleriaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Cofnodion o'r bwyd a ddarparwyd ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth, yn ddigon manwl i alluogi unrhyw berson sy'n archwilio'r cofnod i ganfod a yw'r ddeiet yn foddhaol, mewn perthynas â maethiad ac fel arall, ac unrhyw ddeiet arbennig sydd wedi'i pharatoi ar gyfer defnyddiwr gwasanaeth unigol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf offer tân (gan gynnwys offer larymau tân) a gynhelir yn y cartref gofal ac unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân, neu os rhoddir larwm tân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 4 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff defnyddiwr gwasanaeth ar goll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 4 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref gofal, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 4 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 4 a 30

ATODLEN 5LL+CGWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA

1.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Y manylion canlynol—LL+C

(a)eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;

(b)a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 5 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 5 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 5 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 5 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

14.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 5 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 5 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

16.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 5 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

17.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 5 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

18.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 5 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

19.  Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 5 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 25 a 36(a)

ATODLEN 6LL+CMATERION SYDD I'W MONITRO MEWN CARTREF GOFAL Y MAE PLANT YN CAEL EU LLETYA YNDDO

1.  Cydymffurfedd ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn a baratowyd gan yr awdurdod lleoli a chynllun lleoliad pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

2.  Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a drosglwyddyd er mwyn eu cadw'n ddiogel.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

3.  Bwydlenni dyddiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

4.  Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan y plant sy'n cael eu lletya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

5.  Unrhyw salwch y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn ei gael.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

6.  Cwynion mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a'u canlyniadau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

7.  Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

8.  Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

9.  Ymwelwyr â'r cartref gofal ac â'r plant yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

10.  Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5 i Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

11.  Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gofal gan blentyn sy'n cael ei letya yno.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

12.  Defnyddio unrhyw fesurau disgyblu mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

13.  Defnyddio ataliadau corfforol mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

(1)

Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.

(2)

Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau o dan 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd. Mae swydd o fewn adran 115(4) os yw o fath sydd wedi'i bennu mewn rheoliadau ac yn golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn hyfforddi, yn goruchwylio neu'n gofalu am bersonau 18 oed neu os yw'n golygu mai'r unig berson sy'n gyfrifol amdanynt yw deiliad y swydd.

(3)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.