RHAN IIIRHEDEG SEFYDLIADAU GOFAL IECHYD

PENNOD 4HYSBYSU'R CYNULLIAD CENEDLAETHOL

Hysbysu am ddigwyddiadau27.

(1)

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r Cynulliad—

(a)

am farwolaeth claf—

(i)

mewn sefydliad;

(ii)

yn ystod triniaeth a ddarparwyd mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad; neu

(iii)

o ganlyniad i driniaeth a ddarparwyd mewn sefydliad neu at ddibenion sefydliad, o fewn y cyfnod o saith niwrnod sy'n gorffen ar ddyddiad y farwolaeth,

ac am amgylchiadau marwolaeth y claf;

(b)

am unrhyw anaf difrifol i glaf;

(c)

am frigiad unrhyw glefyd heintus mewn sefydliad a hwnnw'n frigiad sydd ym marn unrhyw ymarferydd meddygol sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfryw;

(ch)

unrhyw honiad o gamymddwyn sy'n arwain at niwed gwirioneddol neu bosibl i glaf gan y person cofrestredig, unrhyw berson a gyflogir yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad, neu unrhyw ymarferydd meddygol â breintiau ymarfer.

(2)

Rhaid rhoi hysbysiad o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod o 24 awr sy'n dechrau gyda'r digwyddiad o dan sylw ac, os rhoddir hysbysiad ar lafar, rhaid ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol.