Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Chapter
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Defnyddio technegau neu dechnolegau penodol
41.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na ddefnyddir unrhyw gynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 (o fewn ystyr rheoliad 3(1)), na ffynhonnell golau dwys (o fewn ystyr y rheoliad hwnnw) mewn ysbyty annibynnol neu at ddibenion ysbyty o'r fath oni bai bod yr ysbyty hwnnw wedi sefydlu protocol proffesiynol sydd wedi'i lunio gan ymarferydd meddygol neu ddeintydd hyfforddedig a phrofiadol yn y ddisgyblaeth berthnasol, bod y driniaeth i'w darparu yn unol â'r protocol hwnnw a bod y driniaeth yn cael ei darparu yn unol ag ef.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau mai dim ond gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol ac sydd wedi dangos ei fod yn deall y materion canlynol y mae cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys o'r fath yn cael eu defnyddio yn yr ysbyty neu at ddibenion yr ysbyty—
(a)sut i ddefnyddio'r cyfarpar dan sylw yn gywir;
(b)y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys;
(c) ei effeithiau biolegol ac amgylcheddol;
(ch)y rhagofalon i'w cymryd cyn defnyddio cynnyrch laser neu ffynhonnell golau dwys ac wrth eu defnyddio; a
(d)y camau i'w dilyn os bydd damwain, argyfwng, neu ddigwyddiad andwyol arall.
Back to top