Rheoliad 20(1),(3)
ATODLEN 3
RHAN IY CYFNODAU Y MAE'N RHAID CADW COFNODION MEDDYGOL AR EU CYFER
Math y claf | Isafswm cyfnod cadw |
---|
(a)Claf oedd o dan 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.
| Hyd pen-blwydd y claf yn 25ain |
(b)Claf a oedd yn 17 oed ar y dyddiad pan ddaeth y driniaeth y mae'r cofnodion yn cyfeirio ati i ben.
| Hyd pen-blwydd y claf yn 26ain |
(c)Claf a fu farw cyn cyrraedd 18 oed.
| Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf |
(ch)Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol yn ystod y cyfnod y mae'r cofnodion yn cyfeirio ato.
| Cyfnod o 20 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod |
(d)Claf a dderbyniodd driniaeth ar gyfer anhwylder meddyliol yn ystod y cyfnod y mae'r cofnodion yn cyfeirio ato ac a fu farw tra'n derbyn y driniaeth honno.
| Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth y claf |
(dd)Claf y mae ei gofnodion yn ymwneud â thriniaeth gan ymarferydd cyffredinol.
| Cyfnod o 10 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod |
(e)Claf sydd wedi cael organ a drawsblannwyd.
| Cyfnod o 11 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad marwolaeth neu ryddhad y claf p'un bynnag yw'r cynharaf |
(f)Pob achos arall.
| Cyfnod o 8 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cofnod olaf yn y cofnod |
RHAN IIY COFNODION I'W CADW AR GYFER ARCHWILIADAU
1. Cofrestr o gleifion, yn cynnwys—
(a)enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni a statws priodasol pob claf;
(b)enw a chyfeiriad a rhif ffôn perthynas agosaf y claf neu unrhyw berson a awdurdodir gan y claf i weithredu ar ran y claf;
(c)enw, cyfeiriad a rhif ffôn ymarferydd cyffredinol y claf;
(ch)pan fo'r claf yn blentyn, enw a chyfeiriad yr ysgol y mae'r plentyn yn ei mynychu neu y bu iddo ei mynychu cyn iddo gael ei dderbyn i sefydliad;
(d)pan fo claf wedi cael ei dderbyn i warchodaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 enw, cyfeiriad a rhif ffôn y gwarcheidwad;
(dd)enw a chyfeiriad unrhyw gorff a drefnodd bod y claf yn cael ei dderbyn neu a drefnodd ei driniaeth;
(e)y dyddiad pan dderbyniwyd y claf i sefydliad neu pan dderbyniodd y driniaeth a ddarparwyd at ddibenion sefydliad am y tro cyntaf;
(f)natur y driniaeth a gafwyd gan y claf neu y cafodd y claf ei dderbyn i'w chael;
(ff)os yw'r claf wedi bod yn glaf mewnol mewn ysbyty annibynnol, y dyddiad pan gafodd y claf ei ryddhau;
(g)os yw'r claf wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty (gan gynnwys ysbyty gwasanaeth iechyd), dyddiad y trosglwyddiad, y rhesymau dros hynny ac enw'r ysbyty y trosglwyddwyd y claf iddo;
(ng)os bydd y claf yn marw tra mewn sefydliad neu yn ystod triniaeth a ddarperir at ddibenion sefydliad, dyddiad, amser ac achos y farwolaeth.
2. Cofrestr o'r holl lawdriniaethau llawfeddygol a gyflawnwyd mewn sefydliad, gan gynnwys—
(a)enw'r claf y cyflawnwyd y llawdriniaeth arno;
(b)natur y weithdrefn lawdriniaethol a'r dyddiad pan gafodd ei chynnal;
(c)enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd a gyflawnodd y llawdriniaeth;
(ch)enw'r anesthetydd a oedd yn bresennol;
(d)enw a llofnod y person a oedd yn gyfrifol am wirio fod pob nodwydd, swab a chyfarpar a ddefnyddiwyd yn y llawdriniaeth wedi'u cymryd yn ôl o'r claf;
(dd)manylion pob dyfais feddygol a fewnblannwyd yn y claf, heblaw pan fyddai hyn yn golygu datgelu gwybodaeth yn groes i ddarpariaethau adran 33(5) o Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990 (cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth).
3. Cofrestr o bob achlysur pan ddefnyddiwyd techneg neu dechnoleg y mae rheoliad 41 yn gymwys iddynt, gan gynnwys—
(a)enw'r claf y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg mewn perthynas ag ef;
(b)natur y dechneg neu'r dechnoleg o dan sylw a'r dyddiad y cafodd ei defnyddio;
(c)enw'r person a'i defnyddiodd; ac
(ch)pan nad yw'r person sy'n defnyddio'r dechneg neu'r dechnoleg yn ymarferydd meddygol neu'n ddeintydd, enw'r ymarferydd meddygol neu'r deintydd y defnyddiwyd y dechneg neu'r dechnoleg o dan ei gyfarwyddyd.
4. Cofrestr o bob cyfarpar mecanyddol neu dechnegol a ddefnyddiwyd at ddibenion y driniaeth a ddarperir gan y sefydliad, gan gynnwys—
(a)dyddiad prynu'r cyfarpar;
(b)dyddiad gosod y cyfarpar;
(c)manylion cynnal a chadw'r cyfarpar a'r dyddiadau pan wnaed gwaith cynnal a chadw.
5. Cofrestr o bob digwyddiad y mae'n rhaid hysbysu'r Cynulliad ohonynt yn unol â rheoliad 27.
6. Cofnod o'r sifftiau a drefnwyd ar gyfer bob cyflogai a chofnod o'r oriau a weithiodd bob person mewn gwirionedd.
7. Cofnod o bob person sy'n cael ei gyflogi yn y sefydliad neu at ddibenion y sefydliad, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y materion canlynol mewn perthynas ag unigolyn a ddisgrifir yn rheoliad 18(1)—
(a)enw a dyddiad geni y person;
(b)manylion swydd y person yn y sefydliad;
(c)dyddiadau cyflogaeth; ac
(ch)mewn perthynas â phroffesiynolyn gofal iechyd, manylion y cymwysterau proffesiynol perthnasol a chofrestriad y person â'r corff rheoleiddiol proffesiynol perthnasol.