(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002.

Mae'r trefniadau newydd hyn yn amnewid y system statudol mewn perthynas â chartrefi plant y darparwyd ar ei chyfer gan Ddeddf Plant 1989 ac mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 (fel y'u diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o gartref plant o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu gofal byr-dymor dros nos, gwyliau, neu weithgareddau eraill am lai nag 28 o ddiwrnodau y flwyddyn mewn perthynas ag unrhyw un plentyn, ac ystod eang o sefydliadau sy'n darparu llety i'r rhai dros 16 oed a throsodd oni bai, yn y naill achos neu'r llall, fod y sefydliad yn lletya'n bennaf blant sy'n anabl neu sydd fel arall yn dod o dan y disgrifiadau yn adran 3(2) o'r Ddeddf. Mae colegau addysg bellach a sefydliadau ar gyfer tramgwyddwyr ifanc yn cael eu heithrio hefyd.

O dan reoliad 4, rhaid bod gan bob cartref ddatganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, ac arweiniad y plant i'r cartref. Rhaid i'r cartref gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae cartrefi plant yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynglŷn ag amddiffyn plant, lles, iechyd, addysg a defodau crefyddol, y trefniadau ar gyfer cysylltiadau ac ymwelwyr, rheoli ymddygiad, a defnyddio dyfeisiau gwyliadwriaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am staffio'r cartrefi a ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion, cadw cofnodion a hysbysu ynglŷn â'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi plant. Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir, ac mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu a monitro'r materion a nodir yn Atodlen 6 sy'n ymwneud ag ansawdd y gofal sydd i'w ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 36 yn gosod gofynion ynglŷn â sefyllfa ariannol y cartref.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 41 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 42 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y rheoliadau.