RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT
PENNOD 2STAFFIO
Staffio cartrefi plant25
1
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd yna bob amser nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas, yn gweithio yn y cartref plant, o roi sylw—
a
i faint y cartref, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi o unrhyw anabledd) a
b
yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
2
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref plant yn atal y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol er mwyn diwallu eu hanghenion.
Ffitrwydd gweithwyr26
1
Rhaid i'r person cofrestredig beidio—
a
â chyflogi person i weithio yn y cartref plant dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
b
â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref plant oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;
c
â chaniatau i unrhyw berson arall weithio yn y cartref plant mewn swydd lle gall ddod, yng nghwrs ei ddyletswyddau, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy'n cael eu lletya ynddo oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai—
a
ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio mewn cartref plant;
b
bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;
c
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac
ch
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth (yn ôl fel y digwydd) lawn a boddhaol ar gael am y person mewn perthynas â'r materion canlynol—
i
ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
ii
os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 199721 i rym.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a
b
oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, nad oes unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio mewn cartref plant hyd nes y cydymffurfiwyd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas ag ef.
5
Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b)—
a
bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn am bob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;
b
bod gwybodaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—
i
y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a
ii
ac eithrio bod paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;
iii
os yw paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno;
c
bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac
ch
wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.
6
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.
Cyflogi staff27
1
Rhaid i'r person cofrestredig—
a
sicrhau bod pob penodiad parhaol yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a
b
rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.
2
Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol—
a
yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill heb atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er lles diogelwch neu les y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref; a
b
yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.
3
At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw'r darparydd cofrestredig, un o swyddogion naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi, neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu gwnstabl.
4
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo—
a
yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiadau priodol; a
b
yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.