RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT
PENNOD 1LLES Y PLANT
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plantI116
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—
a
y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y cartref rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a
b
sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.
2
Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer—
a
cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sydd, neu a allai fod, yn gwneud ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;
b
cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant at yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal;
c
rhoi gwybod (yn unol â rheoliad 29) i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac i awdurdod lleoli'r plentyn fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;
ch
cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â rheoliad 28(1)) o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;
d
rhoi ystyriaeth i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y cartref plant yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;
dd
gofyniad (yn unol â rheoliad 27) fod personau sy'n gweithio yn y cartref yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn sy'n cael ei letya yno i un o'r canlynol—
i
y person cofrestredig;
ii
cwnstabl;
iii
person sy'n arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o'r Ddeddf;
iv
un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; neu
v
un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;
e
gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r personau sy'n gweithio yn y cartref a'r plant sy'n cael eu lletya yno gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
3
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu—
a
polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y cartref plant, sef polisi y mae'n rhaid iddo gynnwys gweithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio; a
b
gweithdrefn i'w dilyn pan fydd unrhyw blentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn absennol heb ganiatâd.