RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT

PENNOD 1LLES Y PLANT

Meddyginiaethau21.

(1)

Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi unrhyw feddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref plant, eu trafod, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi'n ddiogel a'u gwaredu.

(2)

Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)

bod unrhyw feddyginiaeth a gedwir mewn cartref plant yn cael ei storio mewn lle diogel er mwyn atal unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno rhag cael gafael arni heb oruchwyliaeth;

(b)

bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodir ar gyfer plentyn yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodir, i'r plentyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)

bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i unrhyw blentyn.

(3)

Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth—

(a)

rhag cael ei storio gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

(b)

rhag cael ei hunan-roi gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.

(4)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodi” yw—

(a)

archebu ar gyfer claf i gael ei ddarparu ar ei gyfer—

(i)

o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu'n unol â hi; neu

(ii)

fel rhan o gyflawni gwasnaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997; neu

(b)

mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 196819.