RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT
PENNOD 1LLES Y PLANT
Peryglon a diogelwchI123
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod pob rhan o'r cartref y gall y plant fynd iddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon i'w diogelwch;
b
bod unrhyw weithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon y gellir eu hosgoi;
c
bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu nodi, a'u diddymu cyn belled ag y gellir; ac
ch
bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i bersonau sy'n gweithio yn y cartref i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf.