RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT
PENNOD 1LLES Y PLANT
Cynrychioliadau a chwynion24
1
Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cynrychioliadau a chwynion sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
2
Rhaid i'r weithdrefn ddarparu, yn benodol—
a
ar gyfer cyfle i ddatrys y cynrychioliad neu'r gwyn yn anffurfiol mewn cyfnod cynnar;
b
nad oes neb sy'n destun cwyn yn ymwneud ag unrhyw ran o'i hystyried, heblaw adeg y datrys anffurfiol yn unig os yw hynny'n briodol ym marn resymol y person cofrestredig;
c
ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch y person cofrestredig;
ch
i gynrychioliadau a chwynion gael eu gwneud, ac i agweddau eraill ar y weithdrefn gael eu cyflawni, gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn;
d
ar gyfer trefniadau i'r weithdrefn gael ei gwneud yn hysbys—
i
i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref;
ii
i'w rhieni;
iii
i awdurdodau lleoli; a
iv
i bersonau sy'n gweithio yn y cartref.
3
Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).
4
Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a roddir o dan baragraff (3) gynnwys—
a
enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
b
manylion y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi plant.
5
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.
6
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
a
bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu galluogi i wneud cwyn neu gynrychioliad; a
b
nad oes dim plentyn yn dioddef unrhyw anfantais am wneud cwyn neu gynrychioliad.
7
Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt.
8
Nid yw'r rheoliad hwn (ar wahân i baragraff (6)) yn gymwys i unrhyw gynrychioliadau y mae Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 199120 yn gymwys iddynt.