xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cynrychioliadau a chwynion sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
(2) Rhaid i'r weithdrefn ddarparu, yn benodol—
(a)ar gyfer cyfle i ddatrys y cynrychioliad neu'r gwyn yn anffurfiol mewn cyfnod cynnar;
(b)nad oes neb sy'n destun cwyn yn ymwneud ag unrhyw ran o'i hystyried, heblaw adeg y datrys anffurfiol yn unig os yw hynny'n briodol ym marn resymol y person cofrestredig;
(c)ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch y person cofrestredig;
(ch)i gynrychioliadau a chwynion gael eu gwneud, ac i agweddau eraill ar y weithdrefn gael eu cyflawni, gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn;
(d)ar gyfer trefniadau i'r weithdrefn gael ei gwneud yn hysbys—
(i)i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref;
(ii)i'w rhieni;
(iii)i awdurdodau lleoli; a
(iv)i bersonau sy'n gweithio yn y cartref.
(3) Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).
(4) Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a roddir o dan baragraff (3) gynnwys—
(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a
(b)manylion y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi plant.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—
(a)bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu galluogi i wneud cwyn neu gynrychioliad; a
(b)nad oes dim plentyn yn dioddef unrhyw anfantais am wneud cwyn neu gynrychioliad.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt.
(8) Nid yw'r rheoliad hwn (ar wahân i baragraff (6)) yn gymwys i unrhyw gynrychioliadau y mae Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(1) yn gymwys iddynt.
Gweler y troednodyn i reoliad 15(2)(ch).