RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT
PENNOD 3COFNODION
CofnodionI128
1
Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw—
a
yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;
b
yn cael ei gadw yn gyfoes; ac
c
yn cael ei lofnodi a'i ddyddio gan awdur pob cofnod ysgrifenedig.
2
Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol—
a
unrhyw ddeddfiad yr awdurdodir cael gweld cofnodion o'r fath odano; neu
b
unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cael gweld cofnodion o'r fath.
3
Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)—
a
cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref plant gyhyd ag y bo'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno; a
b
cael ei ddanfon wedi hynny i awdurdod lleoli'r plentyn22.
4
Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano.
5
Rhaid cadw cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am o leiaf bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnodiad diwethaf, ac eithrio cofnodion am fwydlenni, y mae angen eu cadw am flwyddyn yn unig.
6
Nid yw'r rheoliad hwn na rheoliad 29 yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) nac unrhyw reol gyfreithiol am gofnodion neu wybodaeth.