RHAN ICYFFREDINOL
Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plantI13
1
At ddibenion y Ddeddf, mae unrhyw sefydliad sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol wedi'i eithrio o fod yn gartref plant—
a
sefydliad yn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19929;
b
yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw sefydliad a ddefnyddir i letya plant at ddibenion unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn unig—
i
gwyliau;
ii
gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;
cyhyd ag na fydd unrhyw blentyn unigol yn cael ei letya yno am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;
c
yn ddarostyngedig i baragraff (2), safle lle mae person yn darparu gofal dydd o fewn ystyr adran 79(A)(6) o Ddeddf 1989 oni fydd paragraff (3) yn gymwys;
ch
yn ddarostyngedig i baragraff (2), sefydliad a ddefnyddir i letya plant 16 oed a throsodd at ddibenion un neu ragor o'r canlynol yn unig—
i
i alluogi'r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth; neu
ii
gwyliau;
iii
gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;
d
unrhyw hostel mechnïaeth a gymeradwywyd neu hostel prawf a gymeradwywyd10;
dd
unrhyw sefydliad a ddarperir ar gyfer tramgwyddwyr ifanc o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchar 195211.
2
Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf12.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i safleoedd a ddisgrifir ym mharagraff 1(c) os bydd, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau 24 awr pan fydd mwy na 15 awr o ofal dydd yn cael eu darparu mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (boed y plentyn hwnnw o dan wyth oed neu beidio), ac at ddibenion y paragraff hwn rhaid cymryd nad oes unrhyw ofal dydd yn cael ei ddarparu pan fydd plentyn yng ngofal ei riant, ei berthynas neu ei riant maeth.