RHAN VIAMRYWIOL
Marwolaeth person cofrestredig39
1
Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.
2
Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—
a
o'r farwolaeth yn ddi-oed; a
b
o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.
3
Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—
a
am gyfnod heb fod yn hwy nag 28 diwrnod; a
b
am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).
4
Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion pargraff (3)(b) a rhaid iddynt hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.
5
Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref plant, yn unol â pharagraff (3), heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.