xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rhagolygol
Rheoliad 28(1)
1. Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Dyddiad geni a rhyw y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(1) a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
25. Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
26. Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).