Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
Rheoliad 28(4)
1. Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—LL+C
(a)y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;
(b)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;
(c)ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;
(ch)ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;
(d)ei awdurdod lleoli;
(dd)y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—LL+C
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(ch)cyfeiriad cartref;
(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;
(dd)a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac
(e)a yw'n preswylio yn y cartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)