- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 33(1)
1. Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.
2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.
3. Bwydlenni dyddiol.
4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.
5. Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
6. Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.
7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.
8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.
9. Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.
10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.
11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.
12. Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
13. Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.
14. Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.
15. Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.
16. Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.
17. Lòg dyddiol y cartref.
18. Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.
19. Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.
20. Cofnodion cyfarfodydd staff.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: