ATODLEN 6Y MATERION SYDD I'W MONITRO A'U HADOLYGU GAN Y PERSON COFRESTREDIG
1.
Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.
2.
Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.
3.
Bwydlenni dyddiol.
4.
Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.
5.
Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
6.
Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.
7.
Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.
8.
Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.
9.
Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.
10.
Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.
11.
Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.
12.
Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.
13.
Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.
14.
Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.
15.
Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.
16.
Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.
17.
Lòg dyddiol y cartref.
18.
Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.
19.
Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.
20.
Cofnodion cyfarfodydd staff.