xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.
Rhagolygol
Rheoliad 4(1)
1. Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Strwythur trefniadol y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Y manylion canlynol—LL+C
(a)ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;
(b)a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;
(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Manylion—LL+C
(a)polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;
(b)y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
25. Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
26. Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliadau 6, 8, 26
1. Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Naill ai—LL+C
(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(1), neu fod y swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif record droseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn perthynas â hi wedi mynd heibio ers ei rhoi; neu
(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,
gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(2).
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—LL+C
(a)y cafodd y person ei gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(3) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1975 (Eithriadau) 1975 (fel y mae'r Gorchymyn hwnnw ar ôl ei ddiwygio o bryd i'w gilydd)(4); neu
(b)y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 28(1)
1. Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Dyddiad geni a rhyw y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(5) a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
21. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
22. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
23. Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
24. Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
25. Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
26. Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
27. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 28(4)
1. Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—LL+C
(a)y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;
(b)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;
(c)ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;
(ch)ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;
(d)ei awdurdod lleoli;
(dd)y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—LL+C
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(ch)cyfeiriad cartref;
(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;
(dd)a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac
(e)a yw'n preswylio yn y cartref.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 29(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Colofn 1 | Colofn 2 | ||||
---|---|---|---|---|---|
Y digwyddiad: | I'w hysbysu i: | ||||
Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol | Yr awdurdod Lleoli | Yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal | Swyddog heddlu priodol | Yr awdurdod iechyd lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal | |
Marwolaeth plentyn sy'n cael ie letya yn y cartref | ie | ie | ie | ie | |
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio yn y cartref at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(6) | ie | ie | |||
Salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol sydd wedi'u dioddef gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref | ie | ie | |||
Brigiad clefyd heintus sydd ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â'r cartref yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfryw | ie | ie | ie | ||
Honiad bod plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref wedi cyflawni tramgwydd difrifol | ie | ie | |||
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn ymwneud â phuteindra, neu amheuaeth ei fod yn ymwneud ag ef | ie | ie | ie | ie | |
Digwyddiad difrifol sy'n golygu bod angen galw'r heddlu i'r cartref | ie | ie | |||
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn rhedeg i ffwrdd | ie | ||||
Unrhyw gwyn ddifrifol ynghylch y cartref neu bersonau sy'n gweithio yno | ie | ie | |||
Cychwyn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a chanlyniad dilynol yr ymchwiliad | ie | ie |
Rheoliad 33(1)
1. Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
2. Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
3. Bwydlenni dyddiol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
4. Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
5. Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
6. Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
7. Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
8. Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
9. Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
10. Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
11. Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
12. Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
13. Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
14. Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
15. Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
16. Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
17. Lòg dyddiol y cartref.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
18. Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
19. Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
20. Cofnodion cyfarfodydd staff.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 6 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)
Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.
Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.
O.S. 1975/1023. Ar y ddyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.
1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).