ATODLEN 1Y MATERION SYDD I'W CYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

Rheoliad 4(1)

I11

Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I22

Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I2

Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I33

Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.

Annotations:
Commencement Information
I3

Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I44

Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.

Annotations:
Commencement Information
I4

Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I55

Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.

Annotations:
Commencement Information
I5

Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I66

Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.

Annotations:
Commencement Information
I6

Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I77

Strwythur trefniadol y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I7

Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I88

Y manylion canlynol—

a

ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;

b

a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;

c

ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.

Annotations:
Commencement Information
I8

Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I99

Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

Annotations:
Commencement Information
I9

Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1010

Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I10

Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1111

Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.

Annotations:
Commencement Information
I11

Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1212

Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I12

Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1313

Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

Annotations:
Commencement Information
I13

Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1414

Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

Annotations:
Commencement Information
I14

Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1515

Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.

Annotations:
Commencement Information
I15

Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1616

Manylion—

a

polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;

b

y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.

Annotations:
Commencement Information
I16

Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1717

Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

Annotations:
Commencement Information
I17

Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1818

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.

Annotations:
Commencement Information
I18

Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I1919

Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I19

Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2020

Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I20

Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2121

Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

Annotations:
Commencement Information
I21

Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2222

Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

Annotations:
Commencement Information
I22

Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2323

Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.

Annotations:
Commencement Information
I23

Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2424

Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.

Annotations:
Commencement Information
I24

Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2525

Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.

Annotations:
Commencement Information
I25

Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2626

Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

Annotations:
Commencement Information
I26

Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I2727

Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.

Annotations:
Commencement Information
I27

Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CARTREF PLANT NEU WEITHIO MEWN UN

Rheoliadau 6, 8, 26

I281

Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.

Annotations:
Commencement Information
I28

Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I292

Naill ai—

a

os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)32, neu fod y swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif record droseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn perthynas â hi wedi mynd heibio ers ei rhoi; neu

b

mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno33.

Annotations:
Commencement Information
I29

Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I303

Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I30

Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I314

Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.

Annotations:
Commencement Information
I31

Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I325

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

Annotations:
Commencement Information
I32

Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I336

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Annotations:
Commencement Information
I33

Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I347

Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—

a

y cafodd y person ei gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 197434 ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1975 (Eithriadau) 1975 (fel y mae'r Gorchymyn hwnnw ar ôl ei ddiwygio o bryd i'w gilydd)35; neu

b

y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Annotations:
Commencement Information
I34

Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YNG NGHOFNODION ACHOSION PLANT SY'N CAEL EU LLETYA MEWN CARTREFI PLANT

Rheoliad 28(1)

I351

Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.

Annotations:
Commencement Information
I35

Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I362

Dyddiad geni a rhyw y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I36

Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I373

Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.

Annotations:
Commencement Information
I37

Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I384

Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I38

Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I395

Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.

Annotations:
Commencement Information
I39

Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I406

Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I40

Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I417

Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.

Annotations:
Commencement Information
I41

Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I428

Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.

Annotations:
Commencement Information
I42

Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I439

Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.

Annotations:
Commencement Information
I43

Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4410

Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).

Annotations:
Commencement Information
I44

Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4511

Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.

Annotations:
Commencement Information
I45

Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4612

Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.

Annotations:
Commencement Information
I46

Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4713

Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 199636 a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.

Annotations:
Commencement Information
I47

Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4814

Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I48

Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I4915

Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I49

Atod. 3 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5016

Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I50

Atod. 3 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5117

Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I51

Atod. 3 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5218

Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.

Annotations:
Commencement Information
I52

Atod. 3 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5319

Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.

Annotations:
Commencement Information
I53

Atod. 3 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5420

Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I54

Atod. 3 para. 20 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5521

Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I55

Atod. 3 para. 21 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5622

Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I56

Atod. 3 para. 22 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5723

Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.

Annotations:
Commencement Information
I57

Atod. 3 para. 23 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5824

Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.

Annotations:
Commencement Information
I58

Atod. 3 para. 24 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I5925

Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.

Annotations:
Commencement Information
I59

Atod. 3 para. 25 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I6026

Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.

Annotations:
Commencement Information
I60

Atod. 3 para. 26 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I6127

Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I61

Atod. 3 para. 27 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

ATODLEN 4COFNODION ERAILL

Rheoliad 28(4)

I621

Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—

a

y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;

b

y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;

c

ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;

ch

ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;

d

ei awdurdod lleoli;

dd

y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.

Annotations:
Commencement Information
I62

Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I632

Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—

a

enw llawn;

b

rhyw;

c

dyddiad geni;

ch

cyfeiriad cartref;

d

cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;

dd

a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac

e

a yw'n preswylio yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I63

Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I643

Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.

Annotations:
Commencement Information
I64

Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I654

Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I65

Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I665

Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I66

Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I676

Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I67

Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I687

Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.

Annotations:
Commencement Information
I68

Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I698

Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.

Annotations:
Commencement Information
I69

Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I709

Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.

Annotations:
Commencement Information
I70

Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I7110

Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.

Annotations:
Commencement Information
I71

Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I7211

Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.

Annotations:
Commencement Information
I72

Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I7312

Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

Annotations:
Commencement Information
I73

Atod. 4 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I7413

Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I74

Atod. 4 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I7514

Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.

Annotations:
Commencement Information
I75

Atod. 4 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I96ATODLEN 5DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU

Rheoliad 29(1)

Annotations:
Commencement Information
I96

Atod. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1

Colofn 2

Y digwyddiad:

I'w hysbysu i:

Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol

Yr awdurdod Lleoli

Yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal

Swyddog heddlu priodol

Yr awdurdod iechyd lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal

Marwolaeth plentyn sy'n cael ie letya yn y cartref

ie

ie

ie

ie

Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio yn y cartref at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 199937

ie

ie

Salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol sydd wedi'u dioddef gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref

ie

ie

Brigiad clefyd heintus sydd ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â'r cartref yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfryw

ie

ie

ie

Honiad bod plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref wedi cyflawni tramgwydd difrifol

ie

ie

Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn ymwneud â phuteindra, neu amheuaeth ei fod yn ymwneud ag ef

ie

ie

ie

ie

Digwyddiad difrifol sy'n golygu bod angen galw'r heddlu i'r cartref

ie

ie

Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn rhedeg i ffwrdd

ie

Unrhyw gwyn ddifrifol ynghylch y cartref neu bersonau sy'n gweithio yno

ie

ie

Cychwyn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a chanlyniad dilynol yr ymchwiliad

ie

ie

ATODLEN 6Y MATERION SYDD I'W MONITRO A'U HADOLYGU GAN Y PERSON COFRESTREDIG

Rheoliad 33(1)

I761

Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.

Annotations:
Commencement Information
I76

Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I772

Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.

Annotations:
Commencement Information
I77

Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I783

Bwydlenni dyddiol.

Annotations:
Commencement Information
I78

Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I794

Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.

Annotations:
Commencement Information
I79

Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I805

Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I80

Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I816

Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.

Annotations:
Commencement Information
I81

Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I827

Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.

Annotations:
Commencement Information
I82

Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I838

Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I83

Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I849

Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I84

Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I8510

Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

Annotations:
Commencement Information
I85

Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I8611

Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.

Annotations:
Commencement Information
I86

Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I8712

Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I87

Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I8813

Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.

Annotations:
Commencement Information
I88

Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I8914

Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I89

Atod. 6 para. 14 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9015

Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.

Annotations:
Commencement Information
I90

Atod. 6 para. 15 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9116

Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

Annotations:
Commencement Information
I91

Atod. 6 para. 16 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9217

Lòg dyddiol y cartref.

Annotations:
Commencement Information
I92

Atod. 6 para. 17 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9318

Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.

Annotations:
Commencement Information
I93

Atod. 6 para. 18 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9419

Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.

Annotations:
Commencement Information
I94

Atod. 6 para. 19 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)

I9520

Cofnodion cyfarfodydd staff.