2002 Rhif 3270 (Cy.308)
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Deddf Llywodraeth Leol 19721 ar ei adolygiad ar y rhan o'r ffin rhwng Siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn ardal cymunedau Clynderwen a Gorllewin Llandysilio ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau ac effaith yr addasiadau yw cynnwys trosglwyddo'r tir a'r eiddo a elwir “Troed y Rhiw”;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “map ffiniau A” (“boundary map A”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map A Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau B” (“boundary map B”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map B Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau C” (“boundary map C”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map C Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau Ch” (“boundary map D”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Ch Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “map ffiniau D” (“boundary map E”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map D Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)3;
ystyr “Sir Benfro” (“Pembrokeshire”) yw Sir Benfro;
ystyr “Sir Gaerfyrddin” (“Carmarthenshire”) yw Sir Gaerfyrddin.
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau3
1
Mae cymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau A yn cael ei gwahanu oddi wrth Sir Gaerfyrddin a bydd yn dod yn rhan o Sir Benfro.
2
Mae'r rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro;
3
Mae'r rhan o gymuned Clynderwen a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin.
4
Mae'r rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Clynderwen.
5
Mae'r rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno ac yn ffurfio rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)