2. Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Bro Morgannwg” (“Vale of Glamorgan”) yw Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;
ystyr “Caerdydd” (“Cardiff”) yw Dinas a Sir Caerdydd;
ystyr “y map ffiniau ” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Caerdydd a Bro Morganwg (Llanfihangel-ynys-Afan a Grangetown) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)(1).
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S 1978/1247).