Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Newidiadau Etholiadol) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
a
at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
b
at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
3
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Casnewydd 19942;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972.