2002 Rhif 3279 (Cy.317)
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion (gyda rhai addasiadau) yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
a
at ddibenion achosion, sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a
b
at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
3
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;
ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 19942;
Adrannau etholiadol2
1
Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Tor-faen a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bwrdeistref Sirol Tor-faen 1994 wedi'u diddymu.
2
At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen, rhennir y fwrdeistref sirol honno yn 24 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.
3
Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.
Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol3
Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol bwrdeistref sirol Tor-faen
(1) | (2) | (3) |
---|---|---|
Enw'r Adran Etholiadol | Ardal yr Adran Etholiadol | Y nifer o gynghorwyr |
Abersychan | Cymuned Abersychan | 3 |
Blaenafon | Cymuned Blaenafon | 3 |
Bryn-wern | Ward Bryn-wern yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Coed Efa | Ward Coed Efa yng Nghymuned Fairwater | 1 |
Gogledd Croesyceiliog | Ward Gogledd Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog | 2 |
De Croesyceiliog | Ward De Croesyceiliog yng Nghymuned Croesyceiliog | 1 |
Cwmynysgoi | Ward Cwmynysgoi yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Fairwater | Ward Fairwater ac Oaksford yng Nghymuned Fairwater | 2 |
Greenmeadow | Ward Greenmeadow yng Nghymuned Fairwater | 2 |
Llantarnam | Cymuned Llantarnam ac ward Southville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 2 |
Gogledd Llanyrafon | Ward Gogledd Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon | 1 |
De Llanyrafon | Cymuned Pont-hir ac ward De Llanyrafon yng Nghymuned Llanyrafon | 1 |
New Inn | Cymuned New Inn | 3 |
Panteg | Cymuned Panteg | 3 |
Pontnewydd | Cymuned Pontnewydd ac ward Northville yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 3 |
Pontnewynydd | Ward Pontnewynydd ng Nghymuned Pen Transh | 1 |
Pont-y-pŵl | Ward Pont-y- pŵl yng Nghymuned Llanfihangel Pont-y-moel | 1 |
Snatchwood | Ward Snatchwood yng Nghymuned Pen Transh | 1 |
St Cadocs a Phen-y-garn | Ward St Cadocs a Phen-y-garn yng Nghymuned Trefddyn | 1 |
Llanfihangel Llantarnam | Ward Llanfihangel Llantarnam yng Nghymuned Cwmbrân Canolog | 2 |
Trefddyn | Ward Trefddyn yng Nghymuned Trefddyn | 2 |
Two Locks | Ward Two Locks yng Nghymuned Cwmbrân Canolog ac yng Nghymuned Henllys | 3 |
Cwmbrân | Cymuned Cwmbrân Uchaf | 3 |
Waunfelin | Ward Waunfelin yng Nghymuned Pen Transh | 1 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)