2002 Rhif 329 (Cy.42)
Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995
2
Caiff Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 19953 eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 8 isod.
3
Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
a
b
yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2000/63/EC”, rhoddir y geiriau “, Commission Directive 2000/63/EC6 and Commission Directive 2001/30 /EC”7), ac
c
yn y diffiniad o “purity criteria”, yn lle paragraff (b), rhoddir y paragraff canlynol—
b
in the case of magnesium carbonates (E504), the purity criteria referred to in Schedule 5;
4
Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) rhoddir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1C)—
1D
In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove that—
a
the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 March 2002; and
b
the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3(b) and (c) and 8 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2002 had not been in force when that matter occurred.
5
Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8)—
a
yn nodyn (2), yn lle'r geiriau “and E 948” rhoddir y geiriau “, E 948 and E 949”; a
b
yn y Tabl—
i
yn y golofn gyntaf yn union ar ôl y cyfeiriad at “E948”, rhoddir cyfeiriad at “E949”, a
ii
yn yr ail golofn, yn union ar ôl y cyfeiriad at “Oxygen”, rhoddir cyfeiriad at “Hydrogen”.
6
Yn y Tabl i Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir)—
a
yn y cofnod ar gyfer esterau Glycerol rosinau coed (E 445)—
i
yn y drydedd golofn, ar ôl y cyfeiriad at “non-alcoholic flavoured cloudy drinks”, ychwanegir y cyfeiriadau canlynol—
Cloudy spirit drinks in accordance with Council Regulation (EEC) No. 1576/89 laying down general rules on the definition, designation and presentation of spirit drinks8
Cloudy spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume
ii
yn y bedwaredd golofn, gyferbyn â phob un o'r cyfeiriadau a ychwanegir gan y paragraff hwn, ychwanegir cyfeiriadau at “100mg/l”;
b
yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Disodium 5'-ribonucleotides (E 635), mewnosodir y cofnod canlynol—
E 650
Zinc acetate
Chewing gum
1000 mg/kg
c
yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Carbamide (E 927b) mewnosodir y cofnodion canlynol—
E 943a
E 943b
E 944
Butane
Iso-butane
Propane
}
Vegetable oil pan spray (for professional use only) Water-based emulsion spray
quantum satis
7
Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir), yn y cofnod ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) mewnosodir yn y golofn cyntaf y cyfeiriad “E 1520”.
8
Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb)—
a
yn lle'r testun ar y dechrau sy'n cychwyn gyda'r geiriau “Each miscellaneous additive for which specific purity criteria are specified” ac sy'n gorffen gyda'r ymadrodd “E 957 Thaumatin.”, rhoddir y testun canlynol—
The miscellaneous additives for which specific purity criteria are referred to below shall not contain—
- a
more than 2 milligrams per kilogram of arsenic;
- b
more than 10 milligrams per kilogram of lead;
- c
more than 50 milligrams per kilogram of copper;
- d
more than 25 milligrams per kilogram of zinc; or
- e
more than 50 milligrams per kilogram of any combination of copper and zinc
b
hepgorir gweddill yr Atodlen ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â magnesium carbonates (E 504).
Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 20019
Hepgorir paragraff (2) o reoliad 6 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 20019.
2
Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 199710, Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 199911, Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 200112), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 200113 a'r Rheoliadau hyn:
Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 196614); Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig 197615; Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 197616; Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau 197717); Rheoliadau Llaeth Tew a Llaeth Sych 197718; Rheoliadau Jam a Chynhyrchion Tebyg 198119); Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 198420; Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 199221; Rheoliadau Labelu Bwyd 199622.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199823.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)