Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 329 (Cy.42)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Mawrth 2002

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995

2.  Caiff Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(3) eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â rheoliadau 3 i 8 isod.

3.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Directive 95/2/EC”, yn lle'r geiriau “and European Parliament and Council Directive 98/72/EC” rhoddir y geiriau “, European Parliament and Council Directive 98/72/EC(4) and European Parliament and Council Directive 2001/5/EC(5)

(b)yn y diffiniad o “Directive 96/77/EC”, yn lle'r geiriau “and Commission Directive 2000/63/EC”, rhoddir y geiriau “, Commission Directive 2000/63/EC(6) and Commission Directive 2001/30 /EC”(7)), ac

(c)yn y diffiniad o “purity criteria”, yn lle paragraff (b), rhoddir y paragraff canlynol—

(b)in the case of magnesium carbonates (E504), the purity criteria referred to in Schedule 5;.

4.  Yn rheoliad 11 (darpariaeth drosiannol ac esemptiadau) rhoddir y paragraff canlynol ar ôl paragraff (1C)—

(1D) In any proceedings for an offence under these Regulations in respect of any food additive or food, it shall be a defence to prove that—

(a)the food additive or food concerned was put on the market or labelled before 1 March 2002; and

(b)the matter constituting the offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulations 3(b) and (c) and 8 of the Miscellaneous Food Additives (Amendment) (Wales) Regulations 2002 had not been in force when that matter occurred..

5.  Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8)—

(a)yn nodyn (2), yn lle'r geiriau “and E 948” rhoddir y geiriau “, E 948 and E 949”; a

(b)yn y Tabl—

(i)yn y golofn gyntaf yn union ar ôl y cyfeiriad at “E948”, rhoddir cyfeiriad at “E949”, a

(ii)yn yr ail golofn, yn union ar ôl y cyfeiriad at “Oxygen”, rhoddir cyfeiriad at “Hydrogen”.

6.  Yn y Tabl i Atodlen 3 (ychwanegion amrywiol eraill a ganiateir)—

(a)yn y cofnod ar gyfer esterau Glycerol rosinau coed (E 445)—

(i)yn y drydedd golofn, ar ôl y cyfeiriad at “non-alcoholic flavoured cloudy drinks”, ychwanegir y cyfeiriadau canlynol—

(ii)yn y bedwaredd golofn, gyferbyn â phob un o'r cyfeiriadau a ychwanegir gan y paragraff hwn, ychwanegir cyfeiriadau at “100mg/l”;

(b)yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Disodium 5'-ribonucleotides (E 635), mewnosodir y cofnod canlynol—

E 650Zinc acetateChewing gum1000 mg/kg;

(c)yn union ar ôl y cofnod ar gyfer Carbamide (E 927b) mewnosodir y cofnodion canlynol—

E 943a

E 943b

E 944

Butane

Iso-butane

Propane

}Vegetable oil pan spray (for professional use only) Water-based emulsion sprayquantum satis.

7.  Yn Atodlen 4 (carwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir), yn y cofnod ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) mewnosodir yn y golofn cyntaf y cyfeiriad “E 1520”.

8.  Yn Atodlen 5 (meini prawf purdeb)—

(a)yn lle'r testun ar y dechrau sy'n cychwyn gyda'r geiriau “Each miscellaneous additive for which specific purity criteria are specified” ac sy'n gorffen gyda'r ymadrodd “E 957 Thaumatin.”, rhoddir y testun canlynol—

(b)hepgorir gweddill yr Atodlen ac eithrio'r darpariaethau sy'n ymwneud â magnesium carbonates (E 504).

Diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001

9.  Hepgorir paragraff (2) o reoliad 6 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001(9).

(2Yn y Rheoliadau a restrir isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dehonglir cyfeiriadau at Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1997(10), Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) 1999(11), Rheoliadau Echdynion Coffi ac Echdynion Sicori (Cymru) 2001(12)), Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2001(13) a'r Rheoliadau hyn:

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23).

John Marek

Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, fel y'u diwygiwyd eisoes (“y prif Reoliadau”) sy'n gymwys i Brydain Fawr.

Mae'r Rheoliadau yn gweithredu—

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 96/77/EC sy'n nodi meini prawf purdeb penodol ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1), a

(b)Cyfarwyddeb 2001/5/EC y Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2 ar ychwanegion bwyd heblaw lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L55, 24.2.2001, t.59).

Yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol, mae'r Rheoliadau'n pennu meini prawf purdeb newydd mewn perthynas â'r ychwanegion a bennir yn yr Atodiad i gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/30/EC (rheoliadau 3(b) ac (c), 4 ac 8) ac yn gwneud diwygiadau i Reoliadau penodol o ran cyfeiriadau yn y Rheoliadau hynny at y prif Reoliadau (rheoliad 9).

Mae'r Rheoliadau hefyd—

(a)yn ychwanegu un ychwanegyn newydd at y rhestr, yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8 i'r Rheoliadau hynny (rheoliad 5);

(b)yn addasu'r rhestr, yn Atodlen 3 i'r prif Reoliadau, o ychwanegion bwyd amrywiol a all gael eu cynnwys mewn bwydydd penodol, drwy ychwanegu pedwar ychwanegyn newydd at y rhestr honno a phennu bwydydd ychwanegol y gellir cynnwys esterau Glycerol o rosinau coed ynddynt (rheoliad 6); ac

(c)yn addasu'r rhestr o garwyr a thoddyddion carwyr a ganiateir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau drwy ymgorffori Rhif E ar gyfer Propan - 1,2-diol (propylene glycol) (rheoliad 7).

(2)

Cafodd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, O.S. 1999/1136, O.S. 2001/1787 ac O.S. 2001/1440 sy'n gymwys i Gymru yn unig.

(4)

OJ Rhif L295, 4.11.98, t. 18.

(5)

OJ Rhif L55, 24.2.2001, 2. 59.

(6)

OJ Rhif L277, 30.10.2000, t. 1 .

(7)

OJ Rhif L146, 31.5.2001, t.1.

(8)

OJ Rhif L160, 12.6.1989, t. 1.

(14)

O.S. 1966/1073; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(15)

O.S. 1976/509; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(16)

O.S. 1976/541; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(17)

O.S. 1977/927; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(18)

O.S. 1977/928; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(19)

O.S. 1981/1063; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(20)

O.S. 1984/1566; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(21)

O.S. 1992/1978; yr Offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3187.

(22)

O.S. 1996/1499; y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(23)

1998 p.38.