5. Yn Atodlen 1 (ychwanegion amrywiol y caniateir yn gyffredinol eu defnyddio mewn bwydydd na chyfeirir atynt yn Atodlen 6, 7 neu 8)—
(a)yn nodyn (2), yn lle'r geiriau “and E 948” rhoddir y geiriau “, E 948 and E 949”; a
(b)yn y Tabl—
(i)yn y golofn gyntaf yn union ar ôl y cyfeiriad at “E948”, rhoddir cyfeiriad at “E949”, a
(ii)yn yr ail golofn, yn union ar ôl y cyfeiriad at “Oxygen”, rhoddir cyfeiriad at “Hydrogen”.