xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 442 (Cy.57)

GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002

Wedi'u gwneud

28 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1), adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4)), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu)1993 fel y'i diwygiwyd(5).

Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn

2.  Rhaid diwygio'r prif Orchymyn fel a ganlyn:—

Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn

3.  Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 non-executive directors” amnewidier “6 non-executive directors”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (y prif Orchymyn) ymhellach er mwyn diwygio ei swyddogaethau a chynyddu nifer ei gyfarwyddwyr anweithredol.

Mae'r Gorchymyn yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys swyddogaeth rheoli gwasanaethau sy'n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth, gwybodaeth iechyd, telathrebu a rhagnodi a dosbarthu.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn ymhellach drwy gynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 4 i 6.

(1)

1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan a.126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac a.5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Amnewidiwyd adran 5(2) gan baragraff 69 of Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (1995) (p.17).

(5)

O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826.