Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002

Dehongli

3.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “a bennir” (“specified”), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf, gan orchymyn adran 356(2)(a) a (b);

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw'r awdurdod a elwir Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(1);

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y dogfennau cysylltiedig” (“the associated documents”) yw'r dogfennau sy'n cael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod, sy'n nodi'r lefelau cyrhaeddiad, y targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, sef y dogfennau sy'n cael effaith yn rhinwedd y gorchmynion adran 356(2)(a) a (b) priodol ar gyfer y pynciau hynny sydd mewn grym am y tro(2);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “gorchmynion adran 356(2)(a) a (b)” (“section 356(2)(a) a (b) orders”) yw gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan adran 356(2)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol;

  • ystyr “y pynciau perthnasol” (“the relevant subjects”) yw—

    (i)

    mathemateg a gwyddoniaeth;

    (ii)

    mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg, Cymraeg; a

    (iii)

    mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg;

  • ystyr “TC” (“AT”) yw targed cyrhaeddiad;

  • ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r trydydd tymor mewn blwyddyn ysgol;

  • mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 350(1) o'r Ddeddf(3);

  • mae cyfeiriad at ddosbarth neu ysgol cyfrwng Cymraeg yn gyfeiriad yn eu tro at ddosbarth neu ysgol lle, mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf, addysgir mwy na hanner o'r pynciau canlynol, sef—

    (i)

    addysg grefyddol; a

    (ii)

    y pynciau heblaw Cymraeg a Saesneg sy'n bynciau sylfaen mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf,

    (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) yn Gymraeg;

  • rhaid dehongli cyfeiriadau at y cyfnod allweddol cyntaf yn unol â'r cyfeiriad at “the first key stage” yn adran 355 o'r Ddeddf; ac

  • onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni sydd wedi'u nodi yn y dogfennau cysylltiedig.

(2Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.

(3Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.

(1)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Deddf Addysg 1996 ac fe roddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.34).

(2)

Y gorchmynion cyfredol yw O.S. 2000/1154 (Cy.85) (Saesneg), O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (gwyddoniaeth).

(3)

Amnewidiwyd adran 350(1) gan baragraff 85 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.