Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 654 (Cy.70)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002

Wedi'u gwneud

5 Mawrth 2002

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) sef adroddiad dyddiedig Mawrth 2001 ynghylch ei adolygiad ar ran o ardaloedd Cynghorau Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg yng nghymunedau Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn ynghyd â'r cynigion y maent wedi'u llunio yn eu cylch;

a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hynny heb eu haddasu;

a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2002, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Bro Morgannwg” (“the Vale of Glamorgan”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg;

  • ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac a farciwyd “Map o Orchymyn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg (Llanhari, Pont-y-clun, Penllyn, Llanddunwyd a Phendeulwyn) 2002” a sydd wedi'I hadneuo yn unol a Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 fel y'u diwygiwyd(3);

  • ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Newid Ardaloedd Cymunedau

3.  Caiff y rhan honno o Rondda Cynon Taf sydd yng nghymuned Llanhari ac a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau ei gwahanu oddi wrth y fwrdeistref sirol a'r gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Gyllid, Lywodraeth Leol a Chymunedau

5 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny yw y bydd ardal yng nghymuned Llanhari yn Rhondda Cynon Taf yng nghyffiniau dau eiddo o'r enw “Brynderwen” a “Two Hoots” (a ddangosir â llinellau croes du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Penllyn ym Mro Morgannwg ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Mae printiau o'r map ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau arferol swyddfa yn swyddfeydd Rhondda Cynon Taf, The Pavillions, Parc Busnes Cambrian, Clydach Vale, Tonypandy, Rhondda Cynon Taf ac yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Ffordd Holton Y Barri, Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau digwyddol canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion fel hyn a'u gweithredu.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 O.S. 1978/247.