Search Legislation

Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7 isod;

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr;

  • ystyr “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yw ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cymeradwyo a dehonglir “buddiolwr” (“beneficiary”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais fel y'i disgrifir yn rheoliad 3(1) a dehonglir “ceisydd” (“applicant”) yn unol â hynny;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • mae i “cwch bysgota Gymunedol” yr ystyr a roddir i “Community fishing vessel” yn erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3760/92(1) sy'n sefydlu system Gymunedol ar gyfer y pysgodfeydd a dyframaethu;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt (gan gynnwys unrhyw amodau a ddiwygiwyd neu a ychwanegwyd) a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm ar ffurf cymorth Cymunedol neu grant;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at y gwariant cymwys sydd ar gael o'r Offeryn Ariannol Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ac sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “diwygio” (“amend”) yn cynnwys diddymu;

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw—

    (a)

    Rheoliad y Cyngor 1260/1999(2);

    (b)

    Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1263/1999 ar Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd(3);

    (c)

    Rheoliad y Cyngor 2792/1999(4);

    (ch)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/501(5)) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n pennu dyraniad dangosol ar gyfer ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau ar gyfer Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    (d)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/502(6) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n llunio'r rhestr o ranbarthau sy'n dod o dan Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    (dd)

    Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1685/2000(7)) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1260/1999 o ran cymhwyster gwariant gweithrediadau sy'n cael eu cydariannu gan y cronfeydd strwythurol;

    (e)

    Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 yng Nghymru;

    (h)

    Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 dyddiedig 27 Rhagfyr 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1;

    (ff)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 438/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch systemau rheoli ar gyfer cymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol (8); ac

    (g)

    Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 448/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cywiriadau ariannol i gymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol (9)

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;

  • ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i geisio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;

  • ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, project neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;

  • ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddydd penodol o'r mis, yw'r gyfradd llog yn y cant y mae Banc Lloegr wedi rhoi gwybod amdani i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis hwnnw, wedi'i dalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;

  • ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i geisio neu wedi'i dalu;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1260/1999” (“Council Regulation 1260/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 sy'n nodi darpariaethau cyffredinol ynghylch cronfeydd strwythuro(10));

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 2792/1999” (“Council Regulation 2792/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd(11);ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig i fod yn swyddog

    (a)

    gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu

    (b)

    at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddynt gael eu harfer ganddo o dan reoliad 11 isod, gan yr Awdurdod;

    ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yr un ystyron ag yn y ddeddfwriaeth Gymunedol.

(3Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

(4O dan amgylchiadau lle bo hynny'n briodol, rhaid trin unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y gellir ei wneud neu y tystir iddo yn ysgrifenedig neu fel arall drwy ddefnyddio dogfen, hysbysiad neu offeryn o dan unrhyw reoliad, fel pe bai'n cynnwys drwy gyfrwng electronig os oes trefniadau wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi defnyddio cyfrwng electronig neu i ddarparu ar gyfer defnyddio cyfrwng electronig.

(1)

OJ Rhif L389, 31.12.1992, t.1.

(2)

OJ Rhif L161, 26.6.1999, t.1.

(3)

OJ Rhif L161, 26.6. 1999, t.54.

(4)

OJ Rhif L337, 30.12.1999, t.10.

(5)

OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.49.

(6)

OJ Rhif L194, 27.7.1999, t.53.

(7)

OJ Rhif L193, 29.7.2000, t.39.

(8)

OJ Rhif L63, 3.3.2001, t.21.

(9)

OJ Rhif L63, 6.3.2001, t.13.

(10)

(a)

(11)

(b)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources