Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7 isod;

  • ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr;

  • ystyr “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yw ceiswyr y mae eu ceisiadau wedi'u cymeradwyo a dehonglir “buddiolwr” (“beneficiary”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais fel y'i disgrifir yn rheoliad 3(1) a dehonglir “ceisydd” (“applicant”) yn unol â hynny;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • mae i “cwch bysgota Gymunedol” yr ystyr a roddir i “Community fishing vessel” yn erthygl 3 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3760/923 sy'n sefydlu system Gymunedol ar gyfer y pysgodfeydd a dyframaethu;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt (gan gynnwys unrhyw amodau a ddiwygiwyd neu a ychwanegwyd) a dehonglir “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm ar ffurf cymorth Cymunedol neu grant;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at y gwariant cymwys sydd ar gael o'r Offeryn Ariannol Cyfarwyddyd Pysgodfeydd ac sy'n daladwy yn unol â'r ddeddfwriaeth Gymunedol;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae “diwygio” (“amend”) yn cynnwys diddymu;

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth Gymunedol” (“the Community legislation”) yw—

    1. a

      Rheoliad y Cyngor 1260/19994;

    2. b

      Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1263/1999 ar Offeryn Ariannol ar gyfer Cyfarwyddyd Pysgodfeydd5;

    3. c

      Rheoliad y Cyngor 2792/19996;

    4. ch

      Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/5017) dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n pennu dyraniad dangosol ar gyfer ymrwymiadau'r Aelod-wladwriaethau ar gyfer Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    5. d

      Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1999/5028 dyddiedig 1 Gorffennaf 1999 sy'n llunio'r rhestr o ranbarthau sy'n dod o dan Amcan 1 o'r Cronfeydd Strwythurol am y cyfnod 2000 i 2006;

    6. dd

      Penderfyniad y Comisiwn (EC) Rhif 1685/20009) sy'n nodi rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) 1260/1999 o ran cymhwyster gwariant gweithrediadau sy'n cael eu cydariannu gan y cronfeydd strwythurol;

    7. e

      Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 2049 dyddiedig 24 Gorffennaf 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol o dan Amcan 1 yng Nghymru;

    8. h

      Penderfyniad y Comisiwn Rhif C(2000) 4298 dyddiedig 27 Rhagfyr 2000 yn cymeradwyo'r Ddogfen Raglennu Sengl ar gyfer cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig mewn ardaloedd y tu allan i Amcan 1;

    9. ff

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 438/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch systemau rheoli ar gyfer cymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol 10; ac

    10. g

      Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 448/2001 dyddiedig 2 Mawrth 2001 yn pennu rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cywiriadau ariannol i gymorth a roddir o dan y Cronfeydd Strwythurol 11

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;

  • ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i geisio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;

  • ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gymeradwyo o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, project neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;

  • ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddydd penodol o'r mis, yw'r gyfradd llog yn y cant y mae Banc Lloegr wedi rhoi gwybod amdani i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis hwnnw, wedi'i dalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;

  • ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i geisio neu wedi'i dalu;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1260/1999” (“Council Regulation 1260/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1260/1999 sy'n nodi darpariaethau cyffredinol ynghylch cronfeydd strwythuro12);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 2792/1999” (“Council Regulation 2792/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2792/1999 sy'n nodi'r rheolau a'r trefniadau manwl ynghylch cymorth strwythurol Cymunedol yn y sector pysgodfeydd13;ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig i fod yn swyddog

    1. a

      gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu

    2. b

      at ddibenion arfer unrhyw swyddogaethau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddynt gael eu harfer ganddo o dan reoliad 11 isod, gan yr Awdurdod;

    ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn sydd wedi'i benodi'n briodol ac sy'n mynd ynghyd â swyddog awdurdodedig o'r fath.

2

Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu hynny, yr un ystyron ag yn y ddeddfwriaeth Gymunedol.

3

Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif fel cyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.

4

O dan amgylchiadau lle bo hynny'n briodol, rhaid trin unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud neu y gellir ei wneud neu y tystir iddo yn ysgrifenedig neu fel arall drwy ddefnyddio dogfen, hysbysiad neu offeryn o dan unrhyw reoliad, fel pe bai'n cynnwys drwy gyfrwng electronig os oes trefniadau wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi defnyddio cyfrwng electronig neu i ddarparu ar gyfer defnyddio cyfrwng electronig.