2002 Rhif 679 (Cy.76)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 19961 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru yn unig.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19963;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 3;

  • ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn yr Atodlen neu mewn cysylltiad â hwy;

  • ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

  • mae i “safle ysgol” yr ystyr a roddir i “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19984.

2

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy mewn perthynas â hwy3

Ni fydd grantiau yn daladwy ond ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant hwnnw wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y grantiau4

Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ac a dynnwyd ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny o'r math y cyfeirir ato yn yr Atodlen yn ôl cyfradd o 100 y cant o'r gwariant hwnnw a gymeradwywyd.

Amodau talu grantiau

5

1

Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ddirprwy'r person hwnnw.

2

Rhaid i geisiadau am dalu'r grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny neu yr amcangyfrifir y bydd yn cael ei dynnu.

3

Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;

b

o 1 Ebrill hyd at 30 Tachwedd;

c

o 1 Rhagfyr hyd at 31 Mawrth.

4

Rhaid i bob awdurdod addysg y talwyd grant iddo neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, wneud y canlynol cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—

a

cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad ar ffurflen safonol a ddarperir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a

b

sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 19985 ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad, ym marn yr archwilydd, ac a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 19966.

5

Ac eithrio yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 30 Tachwedd mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod blwyddyn ariannol flaenorol ac nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b) am y flwyddyn honno.

6

Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl cael tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (4)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

6

Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant, at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

7

1

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

2

Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

3

Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy

8

Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

9

Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLENY DIBENION Y MAE GRANTIAU YN DALADWY AR EU CYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD Å HWY

Rheoliadau 2 a 3

Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys—

a

gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, celfi ac offer (heblaw offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;

b

darparu ceblau ar gyfer offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a'u gosod fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu'r offer ei hun a'i osod ); ac

c

darparu offer diogelwch.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grantiau ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy ac y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog yr awdurdodau hynny i'w dynnu er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu grantiau o'r fath.

Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymhwyso. Mae'r Rheoliadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu mai dim ond ar gyfer gwariant a dynnwyd neu a dynnir gan awdurdod addysg lleol at y dibenion a bennir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol neu mewn cysylltiad â hwy y bydd grantiau yn daladwy, a dim ond i'r graddau y mae'r gwariant wedi'i gymeradwyo am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

Mae Rheoliad 4 yn darparu yn ôl pa gyfradd y mae grantiau yn daladwy.

Mae Rheoliadau 5 i 7 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio.

Mae Rheoliad 8 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i awdurdodau addysg lleol, y mae taliadau grant wedi'u gwneud iddynt, gydymffurfio â hwy .

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.

Mae'r Atodlen yn darparu at ba ddibenion neu mewn cysylltiad â pha ddibenion y gall grantiau gael eu talu.