2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);
ystyr “grant” (“grant”) yw grant sy'n daladwy o dan adran 484 o Ddeddf 1996 yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r ddarpariaeth yn rheoliad 3;
ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn yr Atodlen neu mewn cysylltiad â hwy;
ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;
mae i “safle ysgol” yr ystyr a roddir i “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2).
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.