Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002

Enwi, Cymhwyso a Dehongli

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (Cychwyn) (Cymru) 2002.

2.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

3.  Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'n dweud fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 ac Atodlenni iddi.

Y diwrnodau penodedig

4.  Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 21 Ionawr 2002.

5.  Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Ebrill 2002.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Ionawr 2002