- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 4
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd |
---|---|
NAWPI 3.1 | Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 3.2 | Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifanc 16 oed a throsodd a ymadawodd â gofal gyda'r nifer isod o TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ): (a) un neu ragor (b) dau neu ragor. |
NAWPI 3.3 | Y gyfran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun gofal a/neu gynllun llwybr fel sy'n addas ar gyfer eu gofal parhaol. |
NAWPI 3.4 | Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal wedi'i sefydlu. |
NAWPI 3.5 | Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant. |
NAWPI 3.6 | Y gost o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos am: (a) gofal cartrefi preswyl a nyrsio (b) gofal cartref. |
NAWPI 3.7 | Y gyfradd o'r bobl hyn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI3.8 | Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.9 | Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu. |
NAWPI 3.10 | Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd yn yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 3.11 | Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd yn yr awdurdod. |
NAWPI 3.12 | Y ganran o'r plant ar y gofrestr amddiffyn plant y dylid wedi adolygu eu hachosion, ac y cafodd eu hachosion eu hadolygu. |
NAWPI 3.13 | Y nifer o bobl 65 neu drosodd sy'n derbyn cymorth gan yr awdurdod gwerth gorau mewn cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod sy'n 65 oed neu drosodd. |
NAWPI 3.14 | Y nifer o oedolion o dan 65 oed y mae'r awdurdod gwerth gorau yn eu helpu i fyw gartref am bob 1,000 o oedolion o dan 65 oed yn yr awdurdod, ym mhob un o'r grwpiau isod, o'u hystyried ar wahân: (a) y rhai ag anabledd corfforol neu anabledd i'r synhwyrau, (b) y rhai ag anabledd dysgu, (c) y rhai â phroblemau iechyd meddwl. |
NAWPI 3.15 | Y ganran o achosion lle mae plant yn derbyn gwasanaeth gan weithiwr cymdeithasol neilltuedig sy'n addas i anghenion y plentyn, ym mhob un o'r grwpiau canlynol, o'u hystyried ar wahân: (a) plant ar y gofrestr amddiffyn plant, (b) plant sy'n derbyn gofal (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwp (a) uchod), (c) plant mewn angen (peidiwch â chynnwys y plant sydd yng ngrwpiau (a) a (b) uchod). |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: