Arfer swyddogaethau gan awdurdod lleol arallLL+C
10.—(1) Os oes trefniadau mewn grym, yn rhinwedd rheoliad 7 uchod, i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod lleol gael eu cyflawni gan awdurdod lleol arall, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.
(2) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) uchod, gan bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw'n cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu swyddog i'r awdurdod.
(3) Os gall unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni, yn rhinwedd paragraff (1) neu (2) uchod, gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl fel y digwydd, y pwyllgor hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2002, gweler rhl. 1(1)