xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

7.—(1Caiff person sydd â phŵ er i wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn wneud trefniadau gydag awdurdod lleol arall yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Caiff trefniadau o dan y rheoliad hwn ddarparu—

(a)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan weithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ond nad yw'n un sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(b)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw;

(c)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan weithrediaeth awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw a bod gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth;

(ch)i swyddogaeth sy'n gyfrifoldeb i weithrediaeth un awdurdod lleol gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall os nad yw'r swyddogaeth honno yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol arall hwnnw ac nad oes gan yr awdurdod arall hwnnw weithrediaeth.

(3Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y person a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.