Gweithrediaethau maer a chabinet41.

(1)

Mae'r darpariaethau yn yr erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â threfniadau gweithrediaeth awdurdod lleol sy'n cynnwys gweithrediaeth maer a chabinet.

(2)

At ddibenion yr erthygl hon, dylid ystyried bod maer etholedig, dirprwy faer neu aelod o'r weithrediaeth yn analluog i weithredu dim ond os ydyw yn cael ei wahardd o swydd neu'n anaddas i weithredu am resymau iechyd.

(3)

Os am unrhyw resymau—

(a)

nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag;

(b)

nad oes modd i'r dirprwy faer weithredu neu bod y swydd o ddirprwy faer yn wag; ac

(c)

mai dim ond un aelod arall o'r weithrediaeth sy'n gallu gweithredu,

rhaid i'r aelod arall hwnnw weithredu yn lle'r maer etholedig.

(4)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), os am unrhyw reswm—

(a)

nad oes modd i'r maer etholedig weithredu neu bod y swydd o faer etholedig yn wag; a

(b)

nad oes modd i unrhyw aelod arall o'r weithrediaeth ymddwyn neu, oherwydd bod swyddi gwag, nad oes unrhyw aelodau eraill o'r weithrediaeth ar gael,

bydd yr awdurdod, cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, yn penodi cynghorydd o'r awdurdod (“y maer dros dro”) (“the interim mayor”) i weithredu yn lle'r maer etholedig a phenodi o leiaf ddau, ond nid mwy na naw, cynghorydd o'r awdurdod (“yr aelodau dros dro”) (“the interim members”) i weithredu yn lle aelodau'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig.

(5)

Ni chaiff y maer dros dro a'r aelodau dros dro benodi cynghorwyr yr awdurdod i'r weithrediaeth na'u symud o'u swyddi.

(6)

At ddibenion adran 11(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweithrediaethau awdurdod lleol), bydd y maer dros dro a'r aelodau dros dro yn cael eu trin fel nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth.

(7)

Ac eithrio adran 80 o Ddeddf 1972 (datgymhwysiadau mewn perthynas ag ethol a dal swydd fel aelod o awdurdod lleol) neu adran 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (datgymhwyso), ni chaiff person ei ddatgymhwyso rhag bod yn aelod o awdurdod lleol neu, fel y digwydd, awdurdod ar y cyd dim ond am fod y person hwnnw yn faer dros dro neu'n aelod dros dro.

(8)

Pan fo'r maer dros dro neu'r aelod dros dro yn peidio â bod yn gynghorydd, bydd y person hwnnw yn peidio â bod ar yr un pryd yn faer dros dro neu, fel y digwydd, yn aelod dros dro.

(9)

Gall yr awdurdod, os yw'n tybio bod hynny'n briodol, symud y maer dros dro neu aelod dros dro o'u swydd.

(10)

Bydd unrhyw faer dros dro ac aelod dros dro, oni bai fod y person hwnnw yn ymddiswyddo fel maer dros dro, neu fel y digwydd, fel aelod dros dro, sy'n peidio â bod yn gynghorydd neu'n cael eu symud o'u swyddi, yn dal swydd hyd—

(a)

nes y bydd y maer etholedig yn gallu gweithredu;

(b)

pan fo swydd maer etholedig yn wag, tan y bydd maer etholedig newydd yn dechrau yn y swydd; neu

(c)

bod aelod o'r weithrediaeth a benodwyd gan y maer etholedig yn gallu gweithredu,

p'un bynnag a ddigwydd gyntaf.